Rhanbarthau'n gwrthod gwahoddiad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Maen nhw wedi dadlau ers blynyddoedd, ac mae'r rhwyg rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau yn ddyfnach nag erioed.

Mae'r rhanbarthau wedi gwrthod gwahoddiad Undeb Rygbi Cymru i fynd i gyfarfod a thrafod cytundebau canolog.

Roedd y rhanbarthau'n cynnal cyfarfod cyhoeddus brynhawn Iau.

Yn ôl Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru Gareth Charles: "Mae 'na anfodlonrwydd mawr oherwydd sut mae'r undeb wedi delio â'r holl fater.

"Yn benna', maen nhw (y rhanbarthau) wedi pwyntio bys at yr undeb a'u cyhuddo o ddiddymu, os mynnwch chi, annibyniaeth y bwrdd proffesiynol (Bwrdd Rygbi Proffesiynol).

Dyfodol

"Ar y bwrdd mae cynrychiolwyr yr undeb, y rhanbarthau a chadeirydd annibynnol."

Mae'r rhanbarthau wedi dweud taw'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol ddylai drafod dyfodol rygbi yng Nghymru.

Cafodd y bwrdd ei sefydlu yn Rhagfyr 2012 yn sgil adolygiad o'r gamp yng Nghymru.

Dim ond unwaith y mae wedi cyfarfod.

Yn ystod cynhadledd i'r wasg ym Mharc yr Arfau ddydd Iau, dywedodd cadeirydd Rygbi Rhanbarthol Cymru, Stuart Gallacher na fyddai'r rhanbarthau yn cyfarfod â'r undeb.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Gallacher y byddai Rygbi Rhanbarthol Cymru yn ysgrifennu at Undeb Rygbi Cymru ar ran y rhanbarthau gan wrthod eu gwahoddiad i fynychu cyfarfod gyda'r undeb ac esbonio pam fod yn well ganddynt drafod dyfodol rygbi yng Nghymru trwy'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol.

"Rydym yn teimlo'n chwithig yn dilyn rhan o'r propaganda a'r dyfalu niweidiol sydd yn cael ei drafod mewn rhan o'r cyfryngau Cymreig...

"Mae'n rhaid i arweinyddiaeth corff llywodraethol Undeb Rygbi Cymru ystyried yn ddwys pam fod y gêm yng Nghymru yn ei chyflwr presennol."

Ychwanegodd Mr Gallacher fod y rhanbarthau yn amau tactegau prif weithredwr yr undeb, Roger Lewis, o ran "dod â'r broses ddemocrataidd a gytunwyd" i sefyll yn ei hunfan".

Dywedodd fod y rhanbarthau yn galw am ganolwr annibynnol i asesu pam fod y broses yn sefyll yn ei hunfan.

'Strategaeth'

Dywedodd datganiad yr undeb: "Bydd yr undeb yn amlinellu i'r rhanbarthau strategaeth ar gyfer y gêm broffesiynol yng Nghymru ac yn croesawu sylwadau oddi wrth y rhanbarthau.

"Am y trydydd tro mae bwrdd yr undeb yn cynnig cyfle i'r pedwar rhanbarth eu hannerch nhw.

"Ein gobaith yw y bydd pob trafodaeth o gwmpas bord bwrdd yr undeb."