Cyfle prin i ennill ysgoloriaeth i ffermio Llyndy Isaf

  • Cyhoeddwyd
Llyndy Isaf, Nant GwynantFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol godi £1 miliwn i brynu fferm Llyndy Isaf

Ddydd Sadwrn yw'r cyntaf o ddau ddiwrnod agored i ddod o hyd i denant ar gyfer fferm yng nghanol Eryri.

Cafodd ymgyrch ei lansio fis Tachwedd diwetha' i gynnig ysgoloriaeth i ffermwr fyw ar fferm Llyndy Isaf ger Beddgelert am flwyddyn.

Denodd y fferm sylw mawr pan gafodd ei hachub wedi apêl gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y llynedd.

Roedd yr ymgyrch wedi cael cefnogaeth nifer o enwogion, fel yr actorion Matthew Rhys, Catherine Zeta Jones ac Ioan Gruffudd yn ogystal â'r cyflwynwyr teledu, Iolo Williams a Kate Humble.

Dros gyfnod o saith mis cafodd £1 miliwn ei gasglu i brynu'r safle 614 erw yn Nyffryn Nant Gwynant.

12 mis

Dyma'r tro cyntaf i'r ysgoloriaeth gael ei chynnig i ffermwyr a bydd hi'n cael ei chynnig yn flynyddol o hyn ymlaen.

O Fedi 1 ymlaen, bydd y ffermwr buddugol yn gyfrifol am reoli'r fferm o ddydd i ddydd am gyfnod o 12 mis.

Bydd disgwyl iddynt sefydlu praidd a buches gyntaf y fferm, fydd yn sail i ddyfodol Llyndy Isaf am y blynyddoedd i ddod.

Byddan nhw'n gyfrifol am drin anifeiliaid a rheolaeth busnes, a hynny gyda chefnogaeth gan Fudiad y Ffermwyr Ifanc a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd hyfforddiant yn rhan bwysig o'r profiad a bydd cyfle i ddysgu am draddodiadau fel plygu gwrych, codi waliau cerrig ac yn y blaen.

'Cyfle gwych'

"Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwr ifanc gael y profiad o reoli fferm yn yr ucheldir", meddai Rheolwr Cyffredinol yr ymddiriedolaeth ar gyfer Eryri a Llŷn, Trystan Edwards.

"Bydd y fenter hon yn sicrhau bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu adeiladu ar eu hyder a datblygu'u sgiliau o ran rheoli da byw, yn ogystal ag agweddau busnes a sgiliau ymarferol, a hyn trwy hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol ynghyd â phrofiad gwaith."

Mae Llyndy Isaf yn un o'r mannau amgylcheddol pwysig yn Eryri yn ôl yr ymddiriedolaeth.

Dyw'r tir ddim wedi ei gyffwrdd gan ffermio dwys ac mae'n gartref i lawer o rywogaethau bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad ac o bwysigrwydd rhyngwladol - fel glas y dorlan, y dyfrgi a'r frân goesgoch.

Mae'r ysgoloriaeth, sydd â'i dyddiad cau ddiwedd mis Ebrill, yn agored i aelodau o Fudiad y Ffermwyr Ifanc sydd rhwng 18 a 26 oed.

Mae'r diwrnod agored cynta' yn cael ei gynnal ar Ebrill 6 a'r ail ar Ebrill 20, a bydd cyfle i ymgeiswyr weld y fferm a siarad gyda chynrychiolwyr o Fudiad y Ffermwyr Ifanc a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd enw'r ymgeisydd buddugol yn cael ei gyhoeddi yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ddiwedd mis Gorffennaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol