Cwest: Lladd anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd

Mae rheithfarn o ladd anghyfreithlon wedi ei chofnodi yn achos dyn 18 oedd fu farw ar ôl iddo gael ei daro i'r llawr a tharo'i ben mewn clwb nos yng Ngwlad Groeg yn 2007.
Dywedodd y crwner, Mary Hassell, nad oedd yn gwybod pwy oedd wedi lladd Jonathan Hiles, gan ychwanegu "ond rwy'n gybod nad Andrew Symeou oedd e".
Yn 2011 fe gafwyd Andrew Symeou, 25 oed o Lundain, yn ddieuog o ddynladdiad Jonathan Hiles.
Roedd Mr Hiles yn dawnsio mewn clwb ar ynys Zante pan gafodd ei daro i'r llawr a tharo'i ben.
'Ddim yno'
Bu farw'n ddiweddarach mewn ysbyty yn Athen.
Dywedodd Mr Symeou wrth y cwest yng Nghaerdydd nad oedd yng nghlwb Rescue adeg yr ymosodiad.
Wedyn trodd at dad Mr Hiles, Denzil, oedd yn eistedd yn yr oriel gyhoeddus a dweud: "Wnes i ddim lladd eich mab. Doeddwn i ddim yno. Mae wedi bod yn anodd clywed pobl yn sarhau fy enw mewn llys barn."
Gofynnodd y crwner i Mr Symeou pam bod ffrindiau Jonathan Hiles wedi dweud wrth y cwest eu bod wedi gweld Mr Symeou yn y clwb nos.
"Roeddwn i'n meddwl eu bod wedi gwneud camgymeriad ond nawr rwy'n meddwl eu bod yn dweud celwydd," meddai Mr Symeou cyn troi a dweud: "Bechgyn, rwy'n credu eich bod yn dweud celwydd."
'Ddim wedi taro'
Gofynnodd y crwner a oedd e wedi taro Jonathan Hiles.
"Nac oeddwn, dwi ddim wedi taro unrhywun yn fy mywyd," meddai cyn i'r tad ddechrau gweiddi ar Mr Symeou o'r oriel gyhoeddus.
Gofynnodd y crwner i'r tad roi'r gorau i'w sylwadau. "Nid yw hyn yn gyfle i chi wawdio tyst," meddai.
Tu allan i'r llys dywedodd y tad: "Does dim mwy y galla' i 'i wneud. Does dim lle arall i fynd."
Pan ofynnwyd i Mr Mr Symeou am ei ymateb i'r rheithfarn dywedodd: "Hon oedd yr un gywir.
"Roedd eisie hon fel y galla' i fwrw ymlaen â fy mywyd i."
Ynghynt clywodd y cwest honiadau fod cyfaill Mr Symeou wedi cael ei guro gan heddlu'r wlad cyn newid ei ddatganiad.
Clywodd y cwest ddatganiad ysgrifenedig Christopher Kyriacou gafodd ei arwyddo bedwar diwrnod wedi'r ymosodiad.
Roedd datganiad yr heddlu'n dweud bod ei gyfaill wedi rhedeg o'r clwb mewn panig ar ôl taro Mr Hiles.
Ond mynnodd Mr Kyriacou, oedd yn 18 oed ar y pryd, fod fersiwn Heddlu Groeg yn "gelwydd 100%".
'Ystafell dywyll'
Dywedodd Mr Kyriacou: "Ar y cychwyn, fe ges i fy ngadael mewn ystafell dywyll am tua hanner awr ac yna fe ddaeth chwe phlismon i mewn.
"Roedden nhw'n gofyn i mi beth ddigwyddodd ond pan oeddwn yn ateb nad oeddwn yn gwybod fe ges i fy nharo ar fy wyneb ac ar fy mhen.
"Roeddwn yn credu fod rhaid i mi wneud beth yr oedden nhw am i fi wneud ac arwyddo'r datganiad er mwyn gadael gorsaf yr heddlu ac er mwyn fy niogelwch fy hun.
"Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd i mi."
Ychwanegodd nad oedd wedi gweld Andrew Symeou yn taro unrhyw un yn ei fywyd ac nad oedd Mr Symeou wedi gadael y criw o wyth o gyfeillion ar unrhyw adeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2010
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2010
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2009