Apêl am ddyn ar goll ers blwyddyn
- Cyhoeddwyd

Mae apêl o'r newydd wedi ei wneud am wybodaeth am bensiynwr sydd wedi bod ar goll am flwyddyn.
Does neb wedi gweld Trevor Elias, 77 oed o Abertridwr yn sir Caerffili, ers Ebrill 2012.
Bryd hynny fe wnaeth trigolion lleol ddosbarthu dros 1,000 o daflenni a phosteri mewn ymdrech i ddod o hyd iddo ac fe wnaeth dros 400 o bobl leol fynychu gwylnos.
Gwelwyd ef ar gamerâu cylch cyfyng am 12.23am ar ddydd Gwener Ebrill 6 yn cerdded heibio'r Senotaff yn Senghenydd ac yn cerdded i lawr Commercial Street i gyfeiriad Abertridwr.
Mae'r pensiynwr yn 6'0" o daldra gyda gwallt brown byr.
Fel rheol mae'n gwisgo sbectol, ond doedd y rhain ddim arno pan welwyd ddiwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Rydym yn parhau i chwilio am Trevor.
"Mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol er mwyn dod o hyd i unrhyw wybodaeth a all helpu ddod o hyd i Mr Elias.
"Mae angen i deulu Trevor wybod beth sydd wedi digwydd iddo".
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano gysylltu â'r heddlu ar 101.
Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2012