Trosedd rhyw: Cyhuddo plismon cynorthwyol o Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae plismon cynorthwyol o Wrecsam wedi bod o flaen llys ym Mhrestatyn ar gyhuddiad o drosedd rhyw.
Cafodd Keith Jones, sy'n 57 oed, ei gyhuddo o gyffwrdd â menyw heb ei chaniatâd fis Hydref y llynedd.
Mae'n gwadu'r cyhuddiad ac fe fydd yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar Fai 3.