Elusen yn lansio hysbyseb deledu Gymraeg gyntaf

  • Cyhoeddwyd
Claf yn derbyn triniaeth canser
Disgrifiad o’r llun,
Mae ymchwil yn awgrymu nad yw nifer o gleifion yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth gan deulu a ffrindiau

Mae Cymorth Canser Macmillan wedi lansio eu hysbyseb deledu gyntaf yn y Gymraeg i ddangos i bobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru nad ydyn nhw'n wynebu canser ar eu pen eu hunain.

Bydd hysbyseb Neb yn Unig yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C ddydd Llun.

Mae'n dangos person yn cwympo am yn ôl ar ôl cael diagnosis canser ac yn cael ei ddal gan nyrs Macmillan.

Hwn yw'r tro cyntaf i'r elusen gynhyrchu hysbyseb deledu yn y Gymraeg.

Triniaeth

Yr actor Ioan Hefin sydd wedi ymddangos yn Con Passionate, Gwaith Cartref a Pentalar ar S4C sydd yn lleisio'r hysbyseb yn Gymraeg.

Nod yr hysbyseb yw tynnu sylw at y cymorth y gall Macmillan ei gynnig ac annog pobl i gyfrannu at yr elusen.

Lansiodd Macmillan yr hysbyseb ar ôl i'w ymchwil ganfod nad yw 19% o'r bobl sy'n cael diagnosis canser yng Nghymru bob blwyddyn - amcangyfrif o 3,420 o bobl bob blwyddyn - yn cael digon o gymorth gan anwyliaid a ffrindiau wrth iddyn nhw gael triniaeth.

Mae Macmillan yn cynnig cymorth i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu Canolfannau Gwybodaeth a Chymorth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd.

'Help a chymorth'

Dywedodd Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol ar ran Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: "Mae Macmillan eisoes yn cynnig help a chymorth i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg mewn nifer o'n Canolfannau Gwybodaeth a Chymorth, o fewn ein cymuned ar-lein a thrwy'r taflenni gwybodaeth rydyn ni'n eu cynhyrchu'n ddwyieithog.

"Rydyn ni eisiau sicrhau na fydd neb yn wynebu canser ar ei ben ei hun yn y dyfodol a bod pobl yn gallu cael mynediad i wybodaeth a chefnogaeth yn eu mamiaith lle bo hynny'n bosib."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol