Wrecsam 2-1 Mansfield
- Published
Fe wnaeth Wrecsam faeddu Mansfield ar y Cae Ras, gyda breuddwyd y Dreigiau o ennill pencampwriaeth Uwchgynghrair Blue Square Bet yn parhau yn fyw.
Yr ymwelwyr - oedd ar rediad o 12 buddugoliaeth yn olynol a'r ffefrynnau i gipio'r un lle sy'n sicrhau dyrchafiad yn awtomatig - aeth ar y blaen trwy gôl Matthew Green wedi 53 munud.
Ond dyw tîm Andy Morrell ddim yn ildio'n hawdd, a daeth goliau gan Dean Keates (68 munud) a Danny Wright (78 munud).
Nid oedd Wright wedi chwarae ers i Wrecsam ennill Tlws FA Lloegr yn Wembley fis diwethaf oherwydd anaf i'w wddf.
Gyda phum gêm o'r tymor arferol nawr yn weddill, mae llygaid y Dreigiau yn dal ar ennill y bencampwriaeth.
Mae Mansfield nawr 7 pwynt ar y blaen i Wrecsam, a naw o flaen Casnewydd. Er mai Kidderminster sydd ar frig y tabl maen nhw wedi chwarae dwy gêm yn fwy nag eraill o'u cwmpas.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Mawrth 2013
- Published
- 24 Mawrth 2013
- Published
- 24 Ionawr 2013
- Published
- 19 Mawrth 2013