Cwest ffermwr: Marwolaeth drwy ddamwain

  • Cyhoeddwyd

Clywodd cwest yn Llanelli bod ffermwr o Sir Gâr wedi marw ar ôl cael ei wasgu gan darw yn ystod prawf TB ar y fferm deuluol.

Roedd David Stephens yn 55 oed, yn briod ac yn dad i dri o blant.

Bu farw Mr Stephens yn Ysbyty Treforys ar Ionawr 22 eleni wedi iddo gael ei gludo yno gan ambiwlans awyr o'i gartref yn fferm Coedybrain yn Llandyfaelog ger Cydweli.

Cafodd rheithfarn o farwolaeth drwy ddamwain ei chofnodi gan aelodau'r rheithgor yn neuadd y dref Llanelli ddydd Gwener.

Cawell trin gwartheg

Clywodd y cwest fod Mr Stephens wedi ceisio rhoi'r tarw mewn dyfais yn ystod prawf TB ond gwrthododd yr anifail gael ei ffrwyno.

Yn ddiweddarach y bore hwnnw ceisiodd Mr Stephens a'i fab Robert i symud yr anifail i gawell trin gwartheg ar ochr arall y parlwr godro gan ddefnyddio ffyn i arwain y tarw.

Ond ymosododd yr anifail ar Mr Stephens gan ei wthio yn erbyn stâl godro.

Bu farw Mr Stephens o'i anafiadau yn yr ysbyty yn ddiweddarach y noson honno.

Dywedodd Catherine Toozer, Arolygydd Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, nad oedd y tarw wedi bod yn ymosodol yn y gorffennol ond ei fod yn bosib fod yr anifail wedi'i gyffroi am ei fod wedi gweld buchod yn mynd i mewn i'r cawell trin gwartheg.