Cwpan Cymru

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Pwy fydd yn codi Cwpan Cymru eleni?

Bangor 1-0 Y Seintiau Newydd

Y Barri 1 - 2 Prestatyn

Bangor a Phrestatyn sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Bêl-droed Cymru, fydd yn cael ei chwarae ar benwythnos cyntaf mis Mai.

Fe wnaeth Bangor guro'r deiliaid Y Seintiau Newydd, a hynny wrth i Chris Jones sgorio wedi 94 munud pan oedd pawb yn disgwl y byddai'n rhaid chwarae amser ychwanegol.

Gwnaed y dasg yn anoddach i'r Seintiau ar ôl i Sam Finley weld y cerdyn coch wedi 79 munud, fel y digwyddodd iddo yn y rownd gyn-derfynol.

Peniad Jason Price wedi 78 munud oedd y gôl allweddol wrth i Brestatyn faeddu'r Barri.

Straeon perthnasol