Watford 0-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd gam yn nes at ennill y Bencampwriaeth ar ôl brwydro'n galed i sicrhau pwynt yn Watford, sydd yn un o geffylau blaen yr adran.
Mae Caerdydd yn ddyledus i'r golwr David Marshall am arbediad o'r radd flaenaf i wyro ergyd Troy Deeney heibio'r pyst.
Roedd Manuel Almunia, golwr Watford, yntau ar ei orau i rwystro Kim Bo-Kyung a Joe Mason.
Mae'r canlyniad yn golygu bod gan Gaerdydd 79 o bwyntiau ar ôl 40 o gemau. 74 o bwyntiau sydd gan Hull, yn yr ail safle, ar ôl chwarae gêm yn fwy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013