Ymchwilio i dân ar stad ddiwydiannol

  • Cyhoeddwyd
GLJ Recycling, Cross Keys (llun gan Glwb Pêl-law Abertawe)Ffynhonnell y llun, Swansea City Handball Club
Disgrifiad o’r llun,
Roedd tua 700 tunnell o fetal scrap ar y safle ar y pryd

Mae gwasanaeth tân y de yn ymchwilio i dân ar safle ailgylchu yn Cross Keys yn sir Caerffili ddydd Sadwrn.

Dechreuodd y tân tua un o'r gloch y prynhawn yn adeilad cwmni GLJ Recycling ar stad ddiwydiannol Newtown.

Roedd tua 700 tunnell o fetal scrap ar y safle ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, @BigWelshBear
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhai trigolion lleol wedi clywed ffrwydrad cyn y tân

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol