Tân mewn gwesty: Cyhuddo menyw

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd yn ymddangos ger bron Llys y Goron Caernarfon

Mae menyw 45 oed wedi cael ei chyhuddo o ddifrod troseddol yn dilyn tân mewn gwesty Travelodge ar Ynys Môn.

Fe fydd yn ymddangos ger bron Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.

Cafodd tua chant o bobl eu symud o'r gwesty yng Nghaergybi tua hanner nos, nos Wener.

Ni chafodd neb eu hanafu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol