Ymgyrch GIG: Llai na hanner yn llwyddo

  • Cyhoeddwyd
Parafeddyg
Disgrifiad o’r llun,
Gofynnwyd i bobl fonitro eu cynnydd dros chwe mis.

Mae ymgyrch i annog staff GIG Cymru i fyw bywydau iachach wedi arwain at lai na hanner y rhai a ymunodd yn cadw at y rhaglen lawn.

Fe wnaeth mwy na 1,300 o bobl ymuno â'r prosiect Pencampwyr Iechyd yn wreiddiol, ond dim ond 456 oedd wedi "cymryd rhan weithredol" drwy gydol y peilot chwe mis.

Bydd y canlyniadau yn cael eu dadansoddi i weld pa wersi y gellir eu dysgu.

Mae'r prosiect, a ysbrydolwyd gan Gemau Olympaidd Llundain 2012, yn anelu at wella iechyd staff y GIG a'u cleifion.

Gofynnwyd iddynt newid eu ffordd o fyw mewn dwy ffordd - naill ai yfed yn ddiogel, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, bwyta'n iach, rhoi'r gorau i ysmygu, gweithio tuag at bwysau iach - a monitro eu cynnydd dros chwe mis.

'Ysbrydoli'

Dywedodd GIG Cymru bod 302 o bobl wedi ymrwymo i weithio tuag at gyrraedd pwysau iach, gyda 52 yn cyflawni eu nod a "250 yn gwneud cynnydd tuag at gael Mynegai Màs y Corff (BMI) iach".

Ffynhonnell y llun, Alison Watkins Communications
Disgrifiad o’r llun,
Heather Evans: "Os byddaf yn gwneud i un person feddwl 'Rwyf eisiau cael bywyd iachach' yna bydd hynny'n wych"

Fe wnaeth hanner y 120 o bobl a ymrwymodd i fwyta'n iach lwyddo i fwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau'r dydd am 52 diwrnod neu fwy.

Anogwyd y staff i ysbrydoli cleifion a'r cyhoedd trwy arwain y ffordd i fyw yn iachach.

Fe wnaeth Heather Evans, sy'n weithiwr cymorth mamolaeth, golli tua dwy stôn sydd wedi cael effaith fawr ar ei hiechyd a'i lles.

"Mae'n ffordd o fyw erbyn hyn," meddai'r fam i dri o blant sy'n gweithio yn Ysbyty Coffa Llandrindod.

"Rwyf mor falch fy mod wedi penderfynu cymryd rhan oherwydd yn ogystal â thrawsnewid fy mywyd i, mae wedi trawsnewid bywyd fy ngŵr a'm plant hefyd".

Dywedodd trefnydd Gemau Olympaidd Llundain 2012, yr Arglwydd Coe: "Hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran yn Pencampwyr Iechyd.

"Mae'n wych bod cymaint o bobl wedi cael eu hysbrydoli gan y Gemau i herio eu hunain i fabwysiadu ffyrdd iachach o fyw".

'Arloesol'

Yn ôl Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru: "Mae'r ymgyrch wedi edrych o'r newydd ar wella iechyd y boblogaeth a hynny mewn ffordd arloesol.

"Drwy arwain drwy esiampl, mae'r staff hefyd wedi gallu dangos i'w cleifion ac i'r cyhoedd y gall hyd yn oed newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i'w hiechyd a'u lles.

"Fodd bynnag, mae'r ymgyrch hefyd yn pwysleisio'r her sy'n ein hwynebu yng Nghymru o ran cynnwys pobl mewn gwaith gwella iechyd.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y gallwn ddatblygu Pencampwyr Iechyd ymhellach i helpu i sicrhau bod gennym genedl iachach a chynaliadwy."

Arweiniwyd yr ymgyrch Pencampwyr Iechyd gan Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru ac fe'i cefnogwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r rhaglen genedlaethol 1000 o Fywydau a Mwy.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol