Dynes wedi marw a thri wedi eu hanafu ar ôl damwain
- Cyhoeddwyd

Bu farw dynes a chafodd tair eu cludo i'r ysbyty ar ôl i gar adael y ffordd a disgyn i lawr arglawdd yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y ddynes ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty wedi'r ddamwain ar yr A4069 rhwng Llangadog a Brynaman.
Fe ddigwyddodd tua 8:50pm nos Sul.
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, roedd y ddynes fu farw yn teithio yn y car Ford Ka lliw coch.
"Rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod pedair dynes yn teithio mewn car coch Ford Ka a adawodd y ffordd a disgyn lawr arglawdd ar y ffordd rhwng Llangadog a Brynaman," meddai'r Prif Arolygydd Pete Westlake o Heddlu Dyfed Powys.
"Mae un wedi torri esgyrn ac mae disgwyl iddi gael ei rhyddhau o'r ysbyty yn ddiweddarach. Mae'n ymddangos fod yr ail wedi torri ei choes ac mae'n cael llawdriniaeth.
"Mae gan y drydedd ferch anafiadau mwy difrifol ond mae mewn cyflwr sefydlog.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad, neu a welodd y car yn teithio cyn y ddamwain, ffonio Gorsaf Heddlu Rhydaman ar 101.