Gamblo: 'Angen gwell darpariaeth,' medd arbenigwraig
- Cyhoeddwyd

Dylai triniaeth ar gyfer problemau gamblo fod ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl arbenigwraig.
Dywedodd y seiciatrydd ymgynghorol Dr Henrietta Bowden-Jones wrth raglen Taro Naw fod angen sefydlu clinig arbenigol yng Nghymru ar gyfer pobl â phroblemau gamblo difrifol.
Yr amcangyfri' yn ôl arolwg yn 2010, yw bod 24,000 yng Nghymru yn dioddef o broblemau gamblo.
'Rhannu adnoddau'
Dr Bowden-Jones sy'n rheoli Clinig Gamblo Cenedlaethol Lloegr, yr unig glinig o'i fath yn y Deyrnas Unedig.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru gael clinig arbennig i roi triniaeth i bobl sy'n gaeth i gamblo," meddai.
"Fe fyddai'n llawer haws rhoi triniaeth i bobl yn agos i'w cartrefi. Fe allen ni rannu adnoddau a llawlyfrau hefyd.
"Gall neb honni fod record 100% gyda nhw (y cleifion) ond chwe mis wedi i'w triniaeth ddod i ben 'dyw dros 80% o'r rheiny rydyn ni wedi eu gweld ddim yn gamblo o gwbl.
"Felly mae'n deg dweud ein bod ni'n llwyddiannus iawn."
'Ofnadwy'
Un sydd wedi cael ei argyhoeddi bod Dr Bowden-Jones ar y trywydd cywir yw Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd Paul Flynn.
Dywedodd fod "angen i ni yng Nghymru gael rhywbeth tebyg i'r clinig yn Llundain".
"Mae nifer o etholwyr wedi dod ata' i gyda phroblemau ofnadwy oherwydd gamblo.
"Ac mae hyn ar gynnydd ac mae mor hawdd i gamblo gartre' nawr - ar y we ac ar y ffôn.
"Rhaid i ni drin gamblo yn yr un ffordd â phroblemau alcohol a chyffuriau."
Doedd Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford ddim ar gael i gael ei gyfweld ar y rhaglen ond dywedodd mewn datganiad fod y llywodraeth yn "ymwybodol o effaith gamblo ar unigolion a'u teuluoedd".
"Fe all pobl sy'n gaeth i gamblo gael cyngor oddi wrth eu meddygon ac mewn rhai achosion gael cefnogaeth nyrsys arbenigol, cwnselwyr a seiciatryddion."
'Rhaglenni peilot'
Mae'r gefnogaeth ar gael yng Nghymru yn cael ei darparu gan y Responsible Gambling Trust.
Pedair rhaglen beilot, ran-amser sy'n cael eu gweithredu - i gyd yn y de yng Nghaerdydd, Casnewydd, Merthyr ac Abertawe.
Yn ôl Karen Ozzati, sy'n gweithredu'r cynllun yn Abertawe, mae angen buddsoddiad tymor hir i helpu pobl.
"Yn aml y llefydd tlawd sy'n diodde' fwyaf, hynny yw, yr ardaloedd lle nad yw pobl yn gallu fforddio gwario arian, mewn gwirionedd.
"Mae gamblo yn aml yn broblem mae pobl yn gallu ei chuddio.
"Yn wahanol i alcohol neu gyffuriau does dim effaith ar y corff ond mae'n gallu dinistrio bywydau unigolion a theuluoedd yn yr un ffordd."
Taro 9, gan BBC Cymru ar S4C, am 9pm nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2013