Ymosodiad ar actor: Cyhuddo dyn o Drelái

Rhys ap William fel Cai yn Pobol y Cwm
Image caption Cafodd Rhys ap William - oedd yn chwarae rhan Cai yn Pobol y Cwm - anafiadau yn oriau mân bore Sul

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn 24 oed mewn cysylltiad ag ymosodiad ar yr actor Rhys ap William.

Cafodd yr actor 37 oed anafiadau i'w ben tua 0.15am fore Sul, Chwefror 24, y tu allan i dafarn yr Admiral Napier ar Heol Ddwyreiniol Y Bont-Faen.

Cafodd y dyn 24 oed o ardal Trelái ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl apêl yn y wasg ac ar y cyfryngau.

Bydd y dyn yn ymddangos gerbron llys ym mis Mai.

Mae Rhys ap William yn adnabyddus fel cymeriad Cai Rossiter yn Pobol y Cwm.

Yn ddiweddar bu yn y gyfres Indian Doctor ac Alys.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am yr ymosodiad fe ddylai gysylltu ar 029 2057 1545 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.