Cwmni bisgedi: Buddsoddiad o £13.5m
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni cynhyrchu bisgedi yn buddsoddi £13.5 miliwn yn eu safleoedd yn Llantarnam ger Cwmbrân, Caeredin a Blackpool.
Mae cwmni bisgedi Burton yn cynhyrchu bisgedi enwog fel Maryland Cookies, Jammie Dodgers a Wagon Wheel.
Dywedodd y cwmni y byddai technoleg newydd yn cael ei chyflwyno ar y tri safle.
Buddsoddodd y cwmni £12.5 miliwn yn eu cadwyn gyflenwi yn 2012.
Collodd 70 o bobl eu swyddi yn safle Llantarnam yn 2011 yn sgil arolwg busnes.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol