Tata: Arestio 14 yn sgil ymchwiliad i dwyll

  • Cyhoeddwyd
Safle Tata ym Mhort Talbot
Disgrifiad o’r llun,
Mae BBC Cymru'n deall nad oes neb wedi ei wahardd o'i waith

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio 14 a'u rhyddhau ar fechnïaeth fel rhan o ymchwiliad i honiadau bod cerbydau wedi'u prynu a'u gwerthu'n anghyfreithlon.

Cadarnhaodd cwmni dur Tata fod "nifer o staff" yn ne Cymru'n gysylltiedig â'r ymchwiliad.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i honiadau bod cerbydau wedi eu prynu a'u hailwerthu'n anghyfreithlon yn Ne Cymru.

Mae gan weithwyr Tata yr hawl i ostyngiad o hyd at 20% pris cerbydau, gan gynnwys ceir Jaguar a Land Rover, sy'n cael eu cynhyrchu gan grŵp Tata.

Heb ei wahardd

Ym Mhort Talbot a Thostre ger Llanelli mae safleoedd `y cwmni.

Mae BBC Cymru yn deall nad yw aelod staff wedi ei wahardd o'i waith am nad yw'r ymchwiliad yn ymwneud â methiannau technegol a bod y mater wedi ei godi'n allanol.

Dywedodd llefarydd a ran yr heddlu: "Mae ein tîm troseddau ariannol yn gallu cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau sy'n ymwneud â phrynu a gwerthu cerbydau'n anghyfreithlon.

"Mae 14 o bobl wedi eu harestio mewn perthynas â throseddau twyll ac maen nhw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliadau barhau."

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Tata fod y cwmni'n ymwybodol o'r ymchwiliad "sy'n ymwneud â nifer o staff y cwmni yn Ne Cymru".

Ychwanegodd fod y cwmni'n cydweithredu â'r heddlu.

"Mae gonestrwydd personol yn rhan bwysig o'n hymddygiad corfforaethol yn Ne Cymru fel ym mhobman arall."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol