Protest dros doriadau cyngor
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth tua 20 o aelodau staff Cyngor Sir Ddinbych, y mwyafrif yn aelodau undeb Unsain, lobio cynghorwyr cyn cyfarfod ddydd Mawrth ynghylch cynlluniau'r cyngor i arbed arian allai olygu diswyddo gweithwyr sy'n gwrthod telerau ac amodau gwaith newydd.
Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys newid y modd y mae'r cyngor yn talu staff am ddefnyddio eu ceir eu hunain.
Yn ôl Unsain, mae'r cyngor yn bwriadu diswyddo ac ail-gyflogi gweithwyr ar y telerau newydd.
Er bod aelodau'r undeb wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun, dywed y cyngor fod dal yn rhaid gwneud yr arbedion, ac felly mae'n rhaid iddyn nhw ofyn i weithwyr y cyngor dderbyn y newidiadau.
Os nad ydyn nhw'n gwneud hynny, ac os yw'r cyngor dal yn teimlo bod angen cyflwyno'r newidiadau, bydd staff sydd heb gytuno iddyn nhw yn derbyn rhybudd o fwriad y cyngor i'w gweithredu ac yn cael cynnig cytundebau newydd.
Dywedodd trefnydd lleol yr undeb, Geoff Edkins: "Mae'r toriadau yma i delerau ac amodau gwaith yn ddiangen, ac fe fyddan nhw'n cael effaith fawr ar staff.
"Mae ein haelodau yn flin am y cynlluniau annheg yma, ac rydym yn disgwyl torf yn y brotest i adlewyrchu hynny.
"Does ond gobeithio y bydd cynghorwyr yn gwrando."
Dywed yr undeb fod staff yn fodlon "rhannu'r baich o doriadau lle bo angen, ond mae'n rhaid i hynny gael ei wneud yn deg".
'Effeithlonrwydd'
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod rhaid iddynt wneud arbedion, a bod y staff wedi cael gwybod ym mis Chwefror eu bod "wedi dod i benderfyniad terfynol am yr arbedion yr ydym yn bwriadu eu gwneud o ran effeithlonrwydd y gweithlu".
Mae'r newidiadau yma'n cynnwys lwfans defnyddwyr ceir - rhywbeth y mae'r undeb yn gwadu.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor y bydd ymateb y staff yn cael eu hadolygu pan fydd y cyfnod o ymgynghori gyda nhw ar ben.
Ychwanegodd y datganiad: "Yn dilyn hyn, os fydd y cyngor yn dal i ystyried y dylid gweithredu'r newidiadau, yna bydd unrhyw aelod o staff sydd heb gytuno â'r cynlluniau yn cael eu hysbysu o fwriad yr awdurdod i weithredu'r newidiadau o Hydref 1, ac fe fyddan nhw'n cael cynnig cytundebau newydd ar sail hynny."