Thatcher: Ymateb o dramor

  • Cyhoeddwyd
Margaret Thatcher gyda Ronald Reagan
Disgrifiad o’r llun,
Mrs Thatcher y tu allan i Downing St gyda'r Arlywydd Ronald Reagan

Roedd y Farwnes Thatcher yn Brif Weinidog pan oedd newid mawr yng ngwleidyddiaeth Ewrop a'r byd ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu wrth i deyrngedau gyrraedd oddi wrth wleidyddion Ewrop a thu hwnt.

Roedd perthynas agos gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, Ronald Reagan, ac fe ddaeth teyrngedau gan George W Bush a'r arlywydd presennol Barack Obama.

Dywedodd Mr Bush: "Roedd yn arweinydd ysbrydoledig oedd yn glir ei hegwyddorion ac a arweiniodd ei gwlad gyda hyder ac eglurdeb.

"Mae'r Farwnes Thatcher yn esiampl wych o gryfder a chymeriad ac yn gynghreiriad mawr gryfhaodd y berthynas arbennig rhwng y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau."

'Ymrwymiad a dewrder'

Dywedodd Mr Obama: "Mae America wedi colli gwir gyfaill. Fel Prif Weinidog adferodd yr hyder a'r balchder sydd wedi bod yn nodwedd o Brydain ar ei gorau.

"Wrth gefnogi'r gynghrair dros yr Iwerydd roedd yn gwybod bod modd ennill y Rhyfel Oer ...

"Yma yn America fe fydd llawer ohonon ni yn ei chofio'n sefyll wrth ysgwydd yr Arlywydd Reagan gan atgoffa'r byd nad ydyn ni ond yn cael ein cario ar lanw hanes a bod modd siapio hanes gydag ymrwymiad egwyddorol a dewrder di-ildio."

Mrs Thatcher oedd y Prif Weinidog mewn cyfnod anodd yn y berthynas rhwng y DU ac Iwerddon. Dywedodd y Taoiseach, Enda Kenny: "Roedd Mrs Thatcher yn arweinydd gwleidyddol aruthrol a gafodd effaith sylweddol ar wleidyddiaeth Prydain, Ewrop a'r byd.

"Yn ystod ei 11 mlynedd fel prif weinidog fe ddiffiniodd gyfnod mewn bywyd cyhoeddus ym Mhrydain.

"Fe ddaeth ei chyfnod o arwain ar adeg nodd yn y berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon pan oedd y gwrthdaro treisgar yng Ngogledd Iwerddon ar ei anterth ond fe arwyddodd y Cytundeb Eingl-Wyddelig a osododd y seiliau am fwy o gydweithio rhwng y de a'r gogledd ac a arweiniodd yn y pen draw at Gytundeb Gwener y Groglith."

'Gobaith i fenywod'

Estynnodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig - Ban Ki-moon - ei gydymdeimlad i deulu'r Farwnes Thatcher ac i lywodraeth y DU wrth ddweud ei bod yn un "ddangosodd nid yn unig ei harweiniad ond hefyd a roddodd obaith mawr i fenywod am gydraddoldeb mewn llywodraeth".

Ychwanegodd: "Rwy'n gobeithio y bydd ei harweiniad yn ysbrydoli llawer o bobl o bob cwr o'r byd i ymgyrchu am heddwch, diogelwch a hawliau dynol."

Mewn datganiad dywedodd Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu: "Roedd Margaret Thatcher yn arweinydd aruthrol, yn fenyw o egwyddorion, cryfder, argyhoeddiad a dyfalbarhad.

"Roedd yn gyfaill mawr i Israel ac i bobl Iddewig ac fe ysbrydolodd genhedlaeth o arweinwyr gwleidyddol."

Dywedodd Aelod Seneddol o'r Iwcrain, Vyacheslav Kyrylenko, wrth y BBC: "Mae hi wedi ein gadael. Ynghyd â Ronald Reagan fe ddaeth i gynrychioli cyfnod cyfan o hanes y byd, cyfnod cwymp y Llen Haearn."