Cyhoeddi manylion angladd y Farwnes Thatcher

  • Cyhoeddwyd
Margaret ThatcherFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw'r Farwnes Thatcher yn 87 oed ddydd Llun

Cyhoeddodd Downing Street y bydd angladd y Farwnes Thatcher yn cael ei chynnal ddydd Mercher, 17 Ebrill.

Bu farw'r cyn brif weinidog ddydd Llun, wedi iddi gael strôc.

Bydd y seremoni, gydag anrhydeddau milwrol llawn, yn cael ei chynnal yng nghadeirlan St Paul, wedi gorymdaith o San Steffan.

Wrth i'r trefniadau gael eu cyhoeddi, mae'r teyrngedau i Margaret Thatcher yn parhau.

Dywedodd David Cameron nad dim ond arwain y wlad a wnaeth Margaret Thatcher, ond ei hachub.

Yn ôl Barack Obama, mae'r byd wedi colli un o amddiffynwyr mawr rhyddid.

Fe'i disgrifiwyd gan Ysgrifennydd Cymru David Jones fel "y Brydeinwraig fwyaf yn y cyfnod wedi'r rhyfel" a dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei bod yn "rym gwleidyddol sylweddol".

Gwaddol

Mae ei gwrthwynebwyr wedi beirniadu ei gwaddol economaidd a'i harddull wleidyddol.

Dywedodd cyn arweinydd y Blaid Lafur, yr Arglwydd Kinnock fod "y tlawd wedi mynd yn dlotach am y tro cyntaf ers canrif" yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.

Bu baneri yn 10 Downing Street, Y Senedd ac yn adeiladau Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd a Llundain yn chwifio ar hanner y mast wedi ei marwolaeth.

Ond casglodd rhai pobl ynghyd gan ddweud eu bod yn dathlu'r farwolaeth yn Glasgow ac yn Brixton yn Llundain, ble roedd presenoldeb yr heddlu'n amlwg.

Bydd y Senedd yn San Steffan yn cael eu galw'n ôl o wyliau'r Pasg ar gyfer sesiwn arbennig ddydd Mercher i roi cyfle i wleidyddion Tŷ'r Cyffredin roi teyrngedau pellach iddi.

Cofiant swyddogol

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Yn unol â dymuniadau'r teulu ni fydd angladd gwladol llawn i'r Farwnes Thatcher

Yn y cyfamser mae'r cwmni cyhoeddi Allen Lane wedi dweud y bydd ei bywgraffiad swyddogol gan Charles Moore yn cael ei gyhoeddi yn syth wedi'r angladd.

Cafodd y cofiant ei gomisiynu yn 1997 ar yr amod na fyddai'n cael ei gyhoeddi tan ei marwolaeth.

Nid oedd y Farwnes Thatcher wedi darllen y gyfrol.

Trefniadau

Mae disgwyl i fwy o fanylion am angladd y Farwnes Thatcher gael eu cyhoeddi maes o law.

Fe fydd gwasanaeth yng Nghadeirlan St Paul's yn Llundain, ond yn unol â dymuniadau'r teulu ni fydd angladd gwladol llawn fel y cafwyd i Winston Churchill yn 1965.

Er hynny dywedodd swyddfa'r Prif Weinidog David Cameron bod y Frenhines wedi rhoi caniatâd i gynnal angladd seremonïol fel cafwyd i'r Dywysoges Diana yn 1997.

Y diwrnod cyn yr angladd, bydd arch y Farwnes Thatcher yn cael ei symud i gapel St Mary Undercroft ym Mhalas San Steffan.

Ar ddiwrnod yr angladd bydd strydoedd canol Llundain yn cael eu cadw'n glir, ac fe fydd yr arch yn cael ei gosod ar gar gwn ar orymdaith drwy'r brifddinas, gydag aelodau o'r lluoedd arfog bob ochr i'r ffordd.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street: "Dymuniad y Farwnes Thatcher oedd y byddai'r lluoedd arfog yn medru bod yn rhan o'r angladd, ac fe fydd ganddyn nhw rôl allweddol yn y seremoni.

"Wedi'r gwasanaeth fe fydd amlosgiad preifat.

"Mae'r trefniadau i gyd yn unol â dymuniadau teulu'r Farwnes Thatcher."