Cofio Margaret Thatcher yn 'newid ei meddwl'
- Cyhoeddwyd

Un o ddyfyniadau enwocaf Y Farwnes Thatcher oedd "The Lady's not for turning".
Ond yng Nghymru fe fydd yn cael ei chofio am un achlysur pan y gwnaeth newid ei meddwl.
Y penderfyniad i wneud hynny arweiniodd at sefydlu S4C ym 1982.
Er bod maniffesto'r Ceidwadwyr ym 1979 wedi datgan y bwriad i sefydlu sianel deledu Gymraeg, fe wrthwynebodd Margaret Thatcher y syniad pan gafodd ei hethol yn brif weinidog.
Gwelodd haf 1980 brotestiadau mawrion ar draws Cymru o blaid ymgyrch y sianel.
Ym mis Medi 1980 bu'n rhaid i'r "ddynes haearn" ildio.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref, William Whitelaw, y byddai'r llywodraeth yn dychwelyd at ei haddewid gwreiddiol ac yn sefydlu sianel Gymraeg - fel cynllun prawf am dair blynedd yn unig i ddechrau.
Alun Thomas yn holi Geraint Stanley Jones, Cyn-Brif Weithredwr S4C
Dywedodd Geraint Stanley Jones, cyn-brif weithredwr S4C nad oedd neb wedi meddwl y byddai hi yn gwrando ar y galwadau i sefydlu'r sianel.
"Fyddai hi ddim wedi isio rhoi mewn i alwad Gwynfor Evans ond ei bod wedi ei dylanwadu gan Nicholas Edwards, yr ysgrifennydd gwladol ar y pryd," meddai.
"Bu'n rhaid iddi newid ei meddwl yn gyhoeddus."
Datganoli
Un fu'n ymgyrchu ar y pryd oedd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
"Fe orfodwyd llywodraeth Mrs Thatcher i newid eu barn ynglŷn â'r sianel deledu Gymraeg," meddai.
"Fe wnaeth hyn dros dro roi hwb mawr i bobl yng Nghymru feddwl y gallen nhw drechu'r grym mawr newydd yma."
Er ei bod hefyd yn erbyn datganoli grym o San Steffan, mae rhai yn credu bod dylanwad Mrs Thatcher i'w deimlo wrth sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.
"Yr hyn welon ni oedd pobl yn ymateb, yn enwedig yn y blaid Lafur, gan ddweud 'wel edrychwch, petaen ni wedi bod hefo Cynulliad efallai rhywsut neu'i gilydd y gallen ni fod wedi amddiffyn ein hunain yn erbyn yr hyn yr oedd llywodraeth amhoblogaidd Margaret Thatcher yn ei wneud yng Nghymru," meddai Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd.
"Felly dwi'n meddwl bod datganoli, mewn ffordd, diolch i Margaret Thatcher."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013