Yr ateb i'r prinder?
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun newydd i gynyddu nifer y gwenyn yng Nghymru o blaid annog pobl i greu gerddi sy'n denu pryfed peillio.
Cyhoeddir Cynllun Gweithredu drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Pryfed Peillio yng Nghymru yn rhannol fel ymateb i asesiad a gynhaliwyd yn 2011 a ddangosodd fod gwenyn a phryfed peillio eraill wedi bod yn prinhau'n gyson ym Mhrydain dros y 30 mlynedd diwethaf.
Yr haf diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gweithredu i ddiogelu poblogaethau o wenyn mêl, cacwn (gwenyn bŵm), pryfed hofran, gloÿnnod byw a phryfed peillio eraill yng Nghymru.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y cynllun yn para tan Fehefin 4.
Pryfed peillio
Dyma rai o'r camau y mae'r cynllun yn eu hawgrymu:
• Sicrhau bod cynlluniau ffermio'n cefnogi arferion rheoli sy'n diogelu pryfed peillio
• Adolygu'r arweiniad a roddir i Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol fel bod eu gwaith rheoli tir yn cynnal pryfed peillio'n well
• Darparu a chynnal mannau gwyrdd a rhandiroedd ledled y wlad
• Annog pobl i greu gerddi sy'n denu pryfed peillio
• Gweithio gyda rhanddeiliaid i fonitro'r defnydd o blaladdwyr, ac ystyried unrhyw dystiolaeth newydd a gwaharddiadau a chyflwynwyd.
• Gweithio gydag ysgolion i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion o bwysigrwydd pryfed peillio a gerddi sy'n denu pryfed peillio
• Rhoi arweiniad i awdurdodau lleol ar gynnal arferion sy'n llesol i bryfed peillio
• Rhoi cyngor trwy Cyswllt Ffermio a chylchgrawn Gwlad i ffermwyr ar sut i helpu pryfed peillio.
Dywedodd Gweinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, Alun Davies: "Rydym yn gwybod, hyd yn oed ar sail amcangyfrifon ceidwadol, bod pryfed peillio'n werth rhyw £430 miliwn y flwyddyn a'u bod yn darparu gwasanaeth ecosystem hanfodol iawn.
"Er hynny, mae poblogaethau pryfed peillio wedi bod yn cwympo am y 30 mlynedd diwethaf, a heb gymryd camau nawr, bydd y duedd yn parhau.
"Mae'r cynllun gweithredu drafft yn cynnig ein gweledigaeth ar gyfer y ffordd orau ymlaen a charwn i bawb sydd â diddordeb ystyried ei gynnwys ac anfon eu sylwadau atom.
"Mae pryfed peillio'n hanfodol i'n lles ac i'n hiechyd felly mae'n bwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gael y cynllun hwn i weithio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Mai 2008
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012