Morgannwg 'angen gwella eleni'

  • Cyhoeddwyd
Murray Goodwin
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Morgannwg yn disgwyl cyfraniadau sylweddol gan gyn fatiwr Swydd Sussex a Zimbabwe Murray Goodwin

Mae hyfforddwr tîm cyntaf Clwb Criced Morgannwg wedi dweud ei fod yn disgwyl i'w chwaraewyr berfformio llawer yn well eleni.

Bydd Morgannwg yn chwarae eu gêm gystadleuol gyntaf o'r tymor gan herio Swydd Northampton ym Mhencampwriaeth y Siroedd (PYS) yn Stadiwm Swalec, Caerdydd ddydd Mercher.

Dim ond tair gêm enillodd Morgannwg yn y bencampwriaeth y llynedd gan orffen yn chweched o'r naw sir oedd yn cystadlu yn yr ail adran.

Methodd y clwb hefyd â chyrraedd rowndiau olaf y gemau undydd.

Mae nifer o chwaraewyr wedi gadael y clwb ers y tymor diwethaf gan gynnwys cyn-droellwr Lloegr, Robert Croft, wnaeth ymddeol ar ôl 23 tymor gyda Morgannwg a'r bowliwr cyflym, James Harris, wnaeth ymuno â Middlesex.

Cytundebau newydd

Bydd Morgannwg yn disgwyl cyfraniadau sylweddol gan gyn-fatiwr Swydd Sussex a Zimbabwe Murray Goodwin wnaeth arwyddo cytundeb blwyddyn yr Hydref diwethaf.

Sgoriodd Goodwin mwy na 24,000 rhediad yn ystod 12 tymor gyda Sussex gan gynnwys y sgôr uchaf erioed i'r sir - 344 heb fod allan yn erbyn Gwlad yr Haf yn 2009.

Chwaraeodd 19 gêm brawf dros Zimbabwe rhwng 1998 a 2000 a sgoriodd 148 heb fod allan yn ei brawf olaf yn erbyn Lloegr yn Nottingham.

Arwyddodd John Glover, Huw Waters, Andrew Salter, Mike Reed, Stewart Walters a Ben Wright gytundebau newydd gyda'r sir dros y gaeaf ac mae'r bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan wedi yn ymuno â'r clwb ar gyfer y tymor hwn.

Bydd cyn-fatiwr gemau Prawf Awstralia Marcus North yn arwain y timau undydd ac fe fydd ei gyd-wladwr Dirk Nannes yn chwarae dros y sir yn y gystadleuaeth 20 pelawd.

Y disgwyl yw i Goodwin a Hogan chwarae eu gêm gyntaf dros y sir yn erbyn Northampton ddydd Mercher.

Bydd capten y clwb, y wicedwr Mark Wallace hefyd yn chwarae yn y gêm agoriadol er iddo frifo ei fys bawd yn ystod gêm gyfeillgar yr wythnos diwethaf.

Eleni yw flwyddyn olaf cytundeb dair blynedd Matthew Mott fel hyfforddwr y tîm cyntaf ac mae'n disgwyl i'r sir wella y tymor hwn.

"Rwy'n teimlo y dylwn i i weld ffrwyth fy llafur eleni," meddai' cyn-fatiwr Queensland.

"Rydym wedi adeiladu carfan dros y ddwy flynedd ddiwethaf a dylen ni wella tipyn eleni ar ôl inni chwarae'n well ar ddiwedd y tymor diwethaf."

Morgannwg v Swydd Northampton

Carfan Morgannwg: Will Bragg, Ben Wright, Stewart Walters, Marcus North, Murray Goodwin, Jim Allenby, Mark Wallace, (capten a wicedwr), Graham Wagg, Dean Cosker, Michael Hogan, Michael Reed, Huw Walters.