Toriadau cyngor Sir dinbych: Gohirio penderfyniad

Pencadlys Cyngor Sir Ddinbych Image copyright Arwel Parry
Image caption Roedd Unsain wedi dweud y byddai'r cyngor yn diswyddo ac ail-gyflogi gweithwyr ar delerau newydd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gohirio penderfyniad am gynlluniau i arbed arian allai olygu diswyddo gweithwyr fyddai'n gwrthod telerau newydd.

Roedd undeb Unsain wedi gofyn i'r cyngor oedi cyn gwneud penderfyniad fel bod mwy o drafodaethau'n cael eu cynnal.

Cyn cyfarfod llawn y cyngor roedd 20 o aelodau staff, y mwyafrif yn aelodau'r undeb, yn lobïo cynghorwyr.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys newid sut mae'r cyngor yn talu staff am ddefnyddio eu ceir eu hunain.

Yn ôl Unsain, roedd y cyngor yn bwriadu diswyddo ac ail-gyflogi gweithwyr ar y telerau newydd.

Roedd aelodau'r undeb wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun a'r cyngor wedi mynnu bod angen gwneud arbedion.

Bydd y cyngor yn cyhoeddi pan fyddan nhw'n trafod y mater eto.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.