Jemima Nicholas: Arwres leol
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Tref Abergwaun ac Wdig wedi dewis person newydd i chwarae rhan arwres leol wnaeth ymladd yn erbyn goresgynwyr Ffrengig.
Fe wnaeth Jemima Nicholas arwain criw o ferched yn erbyn y milwyr oedd wedi glanio yng Ngorllewin Cymru a'u bryd ar oresgyn ynysoedd Prydain yn 1797 yn ôl traddodiad lleol.
Roedd y merched i gyd yn gwisgo gwisg draddodiadol yn ôl yr hanes, er mwyn twyllo'r Ffrancwyr i feddwl mai milwyr Prydeinig oeddent.
Jacqui Scarr oedd enillydd pleidlais gyhoeddus yn Abergwaun i ddewis y Jemima newydd gan guro Debbie John.
Bydd ei hymddangosiad cyntaf yn gyhoeddus ymhen chwe wythnos mewn digwyddiad cerddorol yn y dref.
Nid yw'r stori wedi cael ei chadarnhau ond mae'r chwedl yn honni iddi lwyddo i ddarostwng dwsin o ddynion Napoleon ar ei phen ei hun - gyda phicwarch yn unig fel arf.
Un elfen o'r stori a allai esbonio ei llwyddiant yw bod y milwyr i gyd yn feddw gaib.
Arferai Yvonne Fox chwarae ran Jemima mewn digwyddiadau lleol ers daugan mlwyddiant y digwyddiad yn 1997, ond bu farw yn 2010.
Roedd Ms Fox hefyd yn adnabyddus yn lleol am ei gwaith diflino dros elusennau ac fe'i disgrifiwyd fel "menyw hyfryd" gan Gwilym Price, maer Dinbych y Pysgod ar y pryd.
"Cefnogaeth aruthrol"
Dywedodd clerc y dref Sarah McColl Dorion: "Roedd Yvonne Fox yn bersonoliaeth anferth ac yn aelod poblogaidd o'r gymdeithas yn chwarae rhan Jemima Nichols mewn digwyddiadau hanesyddol lleol.
"Yn drist iawn bu farw ychydig o flynyddoedd yn ôl ac mae'r dref wedi bod heb Jemima Nicholas ers hynny.
"Bydd 'milwr Ffrengig' yn cael ei ryddhau yn y dref i'r ymgeiswyr ei ddal. Mae disgwyl i lawer o fusnesau lleol gymryd rhan drwy geisio rhoi lloches i'r milwr wrth iddo geisio osgoi cael ei ddal."