Y Senedd yn rhoi teyrnged i'r Farwnes Thatcher

Margaret Thatcher Image copyright Getty Images
Image caption Yn unol â dymuniadau'r teulu ni fydd angladd gwladol llawn i'r Farwnes Thatcher

Mae aelodau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn talu teyrngedau i'r Farwnes Thatcher wedi ei marwolaeth ddydd Llun.

Trafod y mae Aelodau Seneddol gynnig gan y Prif Weinidog David Cameron "bod y Tŷ hwn yn ystyried y mater o deyrngedau i'r Gwir Anrhydeddus y Farwnes Thatcher o Kesteven LG OM".

Mae David Cameron yn rhoi teyrnged am 2:30pm cyn Nick Clegg ac Ed Miliband.

Eisoes mae rhai aelodau Llafur wedi dweud bod y digwyddiad yn "wastraff arian".

Bydd yr angladd ddydd Mercher yng Nghadeirlan St Paul's a mwy na 700 o aelodau'r lluoedd arfog, gan gynnwys aelodau'r Gwarchodlu Cymreig, ar ymyl y ffordd yn ystod yr orymdaith i St Paul's.

Bu farw 32 aelod o'r Gwarchodlu Cymreig yn Rhyfel y Falklands yn 1982.

Cydymdeimlo

Yn y cyfamser mae sawl llyfr cydymdeimlo wedi eu hagor, gan gynnwys un yn Amgueddfa Grantham, y dref lle ganed Mrs Thatcher ac yng nghanolfan Ceidwadwyr Finchley a Golders Green lle bu'n aelod seneddol.

Fe fydd y ddau lyfr ar agor yn ddyddiol, ac fe fyddan nhw ar agor dros y penwythnos er mwyn i bobl gael mynegi eu teimladau.

Bydd llyfrau eraill yn cael eu hagor yng nghanol Llundain ac yn llysgenadaethau'r DU ar draws y byd, oni bai bod trefniadau diogelwch yn gwneud hynny'n anymarferol.

Fe ddaeth cadarnhad y bydd y Frenhines a Dug Caeredin yn bresennol - y tro cyntaf i'r Frenhines fod mewn angladd prif weinidog ers angladd Winston Churchill yn 1965.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.