Caerdydd 1-1 Barnsley
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd gam yn nes at ennill y Bencampwriaeth ar ôl cipio pwynt yn erbyn Barnsley yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Hon oedd y gêm oedd gan Caerdydd wrth gefn dros y timau eraill o'u cwmpas, ond fe fyddan nhw'n ei gweld fel cyfle a gollwyd.
Mae Caerdydd bellach 9 pwynt o flaen Watford ac 14 o flaen Crystal Palace. Mae Caerdydd felly angen sicrhau saith pwynt arall er mwyn ennill dyrchafiad gan mai dyna'r unig ddau dîm all eu rhwystro.
Roedd yr ornest yn erbyn Barnsley yn unochrog o safbwynt yr ystadegau gyda thîm Malky Mackay yn sicrhau bron 70% o'r meddiant, ac yn creu llawer mwy o gyfleoedd.
Er hynny roedd aros am awr cyn iddyn nhw fedru torri drwy amddiffyn y gwrthwynebwyr. Ben Turner oedd yn y lle iawn i benio croesiad Bo-Kyung Kim i gornel isa'r rhwyd.
Am gyfnod roedd hi'n ymddangos y byddai un gôl yn ddigon gan nad oedd yr ymwelwyr yn creu o gwbl.
Ond yna gyda chic ola'r gêm bron daeth yr ergyd greulon i Gaerdydd. Stephen Foster sgoriodd i gipio pwynt i Barnsley, ac mae hynny'n golygu na fydd Caerdydd yn medru sicrhau dyrchafiad y penwythnos hwn.
Bydd rhaid aros cyn dathlu, ond rhaid i Gaerdydd hefyd gymryd cyfleoedd er mwyn osgoi torcalon llwyr ar ddiwedd y tymor.
Canlyniad
Caerdydd 1-1 Barnsley
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013