Wrecsam a Chasnewydd yn cael ail gyfle

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam a ChasnewyddFfynhonnell y llun, bbc

Gyda'r bencampwriaeth bellach y tu hwnt i'r ddau dîm o Gymru, y flaenoriaeth nawr oedd sicrhau eu bod yn y gemau ail gyfle pan ddaw'r tymor arferol i ben ddiwedd y mis.

I'r perwyl hwnnw roedd nos Fawrth yn noson dda iawn i Wrecsam a Chasnewydd, yn enwedig gan fod canlyniadau eraill wedi mynd o'u plaid.

Fe gafodd Wrecsam y dechrau perffaith wrth i Jay Colbeck sgorio wedi dim ond pum munud.

Doedd gweddill y perfformiad ddim yn argyhoeddi rhywun, ond eto fe lwyddodd tîm Andy Morrell i ddal eu gafael ar y fantais tan y chwib olaf i gael y pwyntiau hollbwysig.

Rhywbeth tebyg oedd y stori ar Rodney Parade. Roedd rhaid aros am dros dri chwarter awr am gôl yma, gyda Conor Washington yn sgorio i'r tîm cartref wedi tri munud o'r ail hanner.

Roedd hynny'n ddigon i gipio buddugoliaeth yn erbyn Braintree.

Gan bod Forest Green Rovers, oedd yn chweched ar ddechrau'r noson wedi colli hefyd, does dim amheuaeth y bydd y ddau dîm o Gymru yn chwarae yn y gemau ail gyfle.

Pe bai'r ddau yn gorffen yn eu safleoedd presennol fe fyddan nhw'n wynebu ei gilydd yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, ac fe fydd un o'r ddau felly yn sicr o fwynhau ymweliad arall â Wembley ym mis Mai.

Canlyniadau nos Fawrth

Casnewydd 1-0 Braintree

Wrecsam 1-0 Caergrawnt