Morgannwg yn dechrau tymor newydd
- Cyhoeddwyd

Mae capten tîm criced Morgannwg Mark Wallace wedi cael gwybod ei fod yn holliach ar gyfer gêm gyntaf y sir yn y tymor newydd ddydd Mercher.
Cafodd y wicedwr anaf i'w fawd ddydd Sadwrn mewn gêm gyfeillgar baratoadol, ond mae darlun pelydr-X wedi dangos nad oes difrod mawr.
Mae'r hyfforddwr Matthew Mott wedi dweud ei fod yn disgwyl mwy gan y tîm y tymor hwn, ac mae un o'u ser, Jim Allenby, wedi rhybuddio bod angen i'r clwb ennill dyrchafiad er lles y clwb i'r dyfodol.
Mae Murray Goodwin a Michael Hogan yn debyg o ennill eu capiau cyntaf i'r sir wrth i Forgannwg groesawu Sir Northants i Stadiwm Swalec ar gyfer y gêm yn ail adran Pencampwriaeth LV=.
Credir mai Ben Wright fydd yn cael ei ddewis i agor y batiad gyda Will Bragg yn hytrach na Gareth Rees.
Y tebygrwydd yw y bydd y chwaraewr amryddawn Graeme Wagg hefyd yn dechrau'r gêm, ac yn cadw'r bowliwr cyflym Huw Waters allan o'r tîm.
Carfan Morgannwg :
WD Bragg, BJ Wright, SJ Walters, MJ North, MW Goodwin, J Allenby, MA Wallace (capt and wk), GG Wagg, DA Cosker, MG Hogan, MT Reed a HT Waters.