Gorchymyn Dŵr Cymru i dalu bron £2m
- Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru wedi eu gorchymyn i dalu bron £2 miliwn o iawndal oherwydd dadl gyfreithiol yn ymwneud â Melin Bapur Shotton yn Sir y Fflint.
Mae'n dilyn anghydfod gyda chwmni dŵr Albion Water sy'n dyddio'n ôl i 1999 pan gafodd Dŵr Cymru eu cyhuddo o gamddefnyddio'r safle fel prif gyflenwr dŵr y rhanbarth a gosod pris afresymol am gludo dŵr i'r felin.
Yn sgil ymchwiliad y Tribiwnlys Apêl Cystadleuaeth, maen nhw wedi cyhoeddi dogfen 128 tudalen o hyd sy'n ffafrio Albion Water.
Maen nhw wedi gorchymyn Dŵr Cymru i dalu £1,694,343.50 o iawndal mewn perthynas â mater y felin bapur, a £150,149.66 yn fwy am na chafodd Albion Water y cyfle i ymgeisio am gytundeb arall i gyflenwi ffatri ddur Shotton.
'Neges glir'
Dywedodd Jerry Bryan, cadeirydd Albion Water: "Mae'r achos hwn yn anfon neges glir i'r diwydiant nad yw prisio gwrth-gystadleuol yn dderbyniol, ac rwy'n gobeithio y bydd OFWAT yn sylweddoli bod y dystiolaeth yn glir a'u bod wedi cael eu camarwain gan fonopoli (Dŵr Cymru)."
Roedd OFWAT, y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant dŵr, wedi ochri gyda Dŵr Cymru pan aeth Albion Water atyn nhw gyda'r gŵyn yn wreiddiol.
Mae'r tribiwnlys wedi beirniadu OFWAT am y modd y delion gyda'r achos.
'Mynediad'
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Mae'n bwysig nodi bod yr achos gan Albion Water yn erbyn Dŵr Cymru yn ymwneud â chais am fynediad i'n rhwydwaith ddosbarthu yn 2001, a hwn oedd y cais cyntaf o'i fath yng Nghymru a Lloegr.
"Daeth y cais hefyd cyn i'r cwmni ddod o dan adain Glas Cymru a'i sefydlu ar ei ffurf bresennol fel cwmni nid-am-elw.
"Mae angen felly rhoi penderfyniad y Tribiwnlys Apêl Cystadleuaeth yn ei gyd-destun.
"Gweithredodd Dŵr Cymru yn ddiffuant wrth osod prisiau oedd yn cydymffurfio â chanllawiau OFWAT ar y pryd.
"Mae'n bwysig nodi hefyd bod y tribiwnlys wedi gwrthod cais Albion Water am iawndal cosbol, ac rydym yn falch bod y tribiwnlys yn cydnabod nad oedd ymgais fwriadol i osod prisiau yn annheg."