Cwest wedi marwolaeth ar Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi agor yn dilyn marwolaeth dyn ddisgynnodd 300 troedfedd o gopa'r Wyddfa Ddydd Gwener y Groglith.
Fe ddisgynodd Andrew Edward Taylor, 38 oed o Ashton-under-Lyne ger Manceinion, pan oedd o ar y Glyder Fawr.
Er i hofrennydd y llu awyr o'r Fali gyrraedd doedd hi ddim yn bosib achub ei fywyd a bu farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty.
Fe ddywedodd y timau achub mynydd fod amgylchiadau ar y mynydd yn beryglus gyda'r eira yn achosi trafferthion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol