Martin yw bardd y bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Martin Daws
Disgrifiad o’r llun,
Mae Martin Daws yn dysgu Cymraeg

Mae'r bardd a'r perfformiwr Martin Daws wedi ei benodi yn awdur llawryfog pobl ifanc Cymru.

Am ddwy flynedd bydd yn cynnal gweithgareddau llenyddol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru gyda thîm o awduron a beirdd.

Fe yw'r ail i gael ei benodi - Catherine Fisher oedd y gyntaf i ymgymryd â'r swydd pan gafodd ei phenodi yn ôl yn 2011.

Dymunodd hi "bob llwyddiant" i Martin.

'Brwdfrydedd'

"Rwy'n siŵr y bydd ei frwdfrydedd a'i egni yn annog llawer mwy o ddarllenwyr ifainc i ymwneud â byd hudolus llyfrau a barddoniaeth."

Mae Martin yn fardd preswyl yng Nghanolfan Amgylcheddol Moelyci yng Ngogledd Cymru ac sy'n byw ym Methesda.

Yn ogystal â chynnal gweithgareddau i hyd at 17,000 o bobl ifanc mewn ysgolion a theatrau yng Nghymru mae wedi perfformio yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae ei berfformiadau byw yn cynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth a byrfyfyrio.

Dywedodd ei fod yn dysgu Cymraeg a dywedodd swyddog marchnata a digwyddiadau Llenyddiaeth Cymru Branwen Mair Llewellyn ei fod yn "dda iawn wrth ddod â dwyieithrwydd i mewn i sesiynau efo plant".

'Barddoniaeth ym mhawb'

"Rwy' wrth fy modd o gael derbyn y rôl ac i gael y cyfle i ddathlu ein traddodiadau barddonol yn y modd yr wyf yn ei adnabod orau - trwy feithrin y genhedlaeth nesaf o feirdd ifainc.

"Rwy'n credu fod yna farddoniaeth i bawb, a bod hefyd barddoniaeth ym mhawb."

Llenyddiaeth Cymru sy'n gyfrifol am y penodiad.

Sefydlwyd Llenyddiaeth Cymru yn Ebrill 2011 a nhw sy'n penodi Bardd Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd y prif weithredwr Lleucu Siencyn: "Bydd ei egni fel perfformiwr ac arweinydd gweithdai yn gwneud llenyddiaeth yn gelfyddyd fywiog, apelgar a pherthnasol i bobl ifainc yng Nghymru.

"Mae'r fenter hon yn rhoi llwyfan hollbwysig i gymunedau ieuenctid trwy Gymru gyfan i ddatblygu eu lleisiau creadigol ac i drafod materion perthnasol i blant ifanc."