BBC Cymru Fyw

Caban maes parcio yn Rhyl yn cael ei ddymchwel

Published
image copyrightNorth Wales Police
image captionMae'r cyngor yn gobeithio y bydd llai o broblemau gwrth-gymdeithasol oherwydd y dymchwel

Mae adeilad oedd yn cael ei ddefnyddio gan bobl oedd yn creu problemau gwrthgymdeithasol yn y Rhyl wedi cael ei ddymchwel.

Roedd y caban maes parcio ar Ffordd Morley yn fan ymgynnull ar gyfer yfwyr lleol.

Dymchwelwyd yr adeilad yn sgil cydweithredu rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Heddlu Gogledd Cymru.

Gorchymyn

Roedd yr heddlu eisoes wedi defnyddio gorchymyn gwasgaru er mwyn ceisio cael gwared ar bobl o'r adeilad ond penderfynwyd wedyn fod angen ateb tymor hir.

Dywedodd y cyngor y byddai dymchwel yr adeilad yn gwneud yr ardal yn fwy diogel.

Yn ôl David Smith, aelod o gabinet y cyngor: "Mi ddylai dymchwel yr adeilad a'r waliau o'i gwmpas arwain ar lai o ymddygiad gwrthgymdeithasol."

Roedd y broblem yn waeth pan oedd y tywydd yn braf, meddai'r Arolygydd Jason Davenport.

Straeon perthnasol

  • Rhyl attractions revamp plan takes step forward