Chwilio am fenyw ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae timau arbenigol yn chwilio am fenyw 59 oed ar goll ers bron pythefnos.
Y gred yw bod Susan Jane Wright wedi gadael ei chartre' yng Ngharmel ger Caernarfon ar Fawrth 29.
Ar hyn o bryd mae'r heddlu'n holi o ddrws i ddrws a phosteri'n cael eu dosbarthu.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Pete Newton: "Mae hi'n gerddwraig brofiadol a dylai unrhywun sydd wedi ei gweld gysylltu â ni.
"Diflannodd hi ar benwythnos y Pasg ac, yn amlwg, roedd llawer o gerddwyr o gwmpas."
Mae'n 5 troedfedd 10 modfedd o daldra a chanddi wallt brown tywyll at ei hysgwyddau a llygaid gwyrdd.
Y gred yw ei bod yn gwisgo siaced werdd ac esgidiau cerdded o bosib'.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.