'Llawdriniaeth yn ormod o risg'
- Cyhoeddwyd

Cafodd claf lawdriniaeth fawr, a arweiniodd at ei farwolaeth, heb fod wedi cael y wybodaeth lawn, a heb fod mewn sefyllfa i roi ei gydsyniad yn iawn.
Dyna gasgliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Peter Tyndall, wrth feirniadu Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
Cafodd y claf - Mr Allan King o Ben-y-bont ar Ogwr - lawdriniaeth gymhleth ar y coluddyn ym mis Gorffennaf 2011 er mwyn rheoli symptomau annifyr, ond bu farw chwe diwrnod yn ddiweddarach.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro ac wedi cytuno i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon, gan gynnwys talu £5,000 i bartner Mr King, Dorothy Wilson, am y poen meddwl a achoswyd gan y diffygion, ac i gydnabod yr ansicrwydd y mae hi'n ei wynebu o ran a fyddai Mr King wedi byw.
Risgiau
Ystyriodd Mr Tyndall sawl cwyn fel rhan o'i ymchwiliad, sef na chafodd maint na risgiau'r llawdriniaeth eu hegluro'n llawn i Mr King, nad oedd yr ymchwiliadau na'r gwaith i baratoi'r coluddyn cyn y llawdriniaeth yn ddigonol ac nad oedd y llawdriniaeth ei hun yn briodol.
Ystyriodd hefyd y gŵyn na roddwyd gwybod i bartner Mr King am ganlyniad y llawdriniaeth nes ei fod wedi dirywio.
Yn ôl y Bwrdd Iechyd, bu "proses ganiatâd hir a manwl" ond dywedodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth o hyn, a daeth i'r casgliad nad oedd Mr King yn gwbl ymwybodol o faint y llawdriniaeth tan ychydig cyn iddo fynd i'r theatr.
Dyfarnodd felly fod y gŵyn wedi'i chyfiawnhau.
Daeth i'r casgliad nad oedd wedi cael gwybod am yr holl risgiau posib a oedd yn gysylltiedig â'r llawdriniaeth, a'i fod wedi mynd i gael y llawdriniaeth fawr - a arweiniodd at ei farwolaeth yn y pen draw - heb gael gwybodaeth lawn a heb fod mewn sefyllfa i roi caniatâd priodol.
'Hyd eithaf ei sgiliau'
Dywedodd adroddiad yr Ombwdsmon: "Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth yn ofalus, deuthum i'r casgliad fod y llawdriniaeth yn ormod o risg dim ond i reoli symptomau, oni bai fod Mr King wedi dymuno bwrw ymlaen ar ôl cael y wybodaeth lawn.
"Canfûm fod y llawfeddyg yn gweithredu hyd eithaf ei sgiliau wrth gyflawni llawdriniaeth mor gymhleth.
"Dyfarnais fod y gŵyn hon wedi'i chyfiawnhau.
"Yn olaf, canfûm y byddai wedi bod yn arfer da petai Ms Wilson wedi cael gwybod am ei ddirywiad yn gynt, a dyfarnais fod y gŵyn hon wedi'i chyfiawnhau hefyd".
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eu bod yn ymddiheuro ac wedi cytuno i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon.
Straeon perthnasol
- 26 Mawrth 2013
- 18 Rhagfyr 2012