Lansio Prifysgol De Cymru

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd wedi uno ac yn cael eu hadnabod fel Prifysgol De Cymru o ddydd Iau ymlaen

Mae Prifysgol De Cymru yn dod i fodolaeth ddydd Iau ar ôl uno Prifysgolion Casnewydd a Morgannwg.

Dyma fydd sefydliad addysg uwch mwyaf Cymru gyda dros 33,500 o fyfyrwyr - ymhlith y mwyaf ym Mhrydain o ran nifer y myfyrwyr.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn croesawu'r sefydliad newydd, ond mae Undeb UNSAIN yn parhau i boeni y gallai swyddi ddiflannu o ganlyniad i'r uno.

Y bwriad yn wreiddiol oedd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd hefyd fod yn rhan o'r broses uno. Ond ar ôl ffrae gyhoeddus, ddigwyddodd hynny ddim.

Felly penderfynodd Morgannwg a Chasnewydd uno heb y trydydd partner, a dydd Iau mi fydd Prifysgol De Cymru yn agor yn swyddogol am y tro cyntaf.

580 o gyrsiau

Gyda champws yng Nghaerdydd, Casnewydd a chymoedd y de mi fydd hi yn y deg uchaf ym Mhrydain o ran nifer y myfyrwyr ac yn cynnig dros 580 o gyrsiau i israddedigion.

Y gobaith ydy y bydd ei maint yn ei galluogi i fuddsoddi mewn adnoddau a chyrsiau newydd yn y dyfodol.

Serch hynny, parhau mae'r amheuon ynghylch sicrwydd swyddi rhai aelodau staff, a'r amser byr y cymerodd hi i sefydlu'r brifysgol.

Ond yn ôl yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor y brifysgol newydd: "Dyma amser hanesyddol i'r gymuned yn ne Cymru.

"Fe fydd y brifysgol newydd yn sefydliad allweddol a fydd yn cyflwyno budd sylweddol i bobl Cymru.

"Mae'n amser cyffrous ac mae'r achos busnes yn dangos ein bod yn gallu creu prifysgol sylweddol, yn gynaliadwy yn ariannol a gydag adnoddau da a fydd yn denu myfyrwyr o Gymru, gweddill y Du a thu hwnt.

"Mae mewn lleoliad gwych i gefnogi'r economi'r gymdeithas a diwylliant yn ne Cymru."

Pryder am swyddi

Ond mae undeb Unsain wedi mynegi pryder y bydd pobl ar safleoedd gwahanol yn gwneud yr un swydd ar gyflogau ac amodau gwaith gwahanol.

Dywedodd eu trefnydd rhanbarthol Gareth John: "Fe fydd unrhyw uniad o'r math yma yn gadael y gweithlu yn teimlo'n fregus am ddiogelwch eu swyddi, ac mae'r teimlad yna yn waeth gan nad yw'r brifysgol newydd wedi ymrwymo i beidio rhoi gwaith i gwmnïau allanol nac i beidio diswyddo'n orfodol.

"Rydym hefyd yn ymwybodol bod uwch-reolwyr eisoes yn gwybod os oes ganddyn nhw swydd o fewn i'r sefydliad newydd, ond dyw nifer o'n haelodau ni ddim yn gwybod pa effaith fydd hyn yn ei gael ar ei swyddi na hyd yn oed os fydd ganddyn nhw swydd o gwbl."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol