Tân mewn ffatri ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr yn y gogledd wedi bod yn brwydro tân mewn ffatri ailgylchu dros nos.
Mae'r tân mewn adeilad ar Stad Ddiwydiannol Tremarl yng Nghyffordd Llandudno.
Aeth lori gyda sgip arni ar dân y tu mewn i'r adeilad nos Fercher, ac mae llawer o bren yn yr adeilad hefyd wedi mynd ar dân.
Ar ei waethaf roedd pedair injan dân ar y safle, ac mae dwy yn dal yno yn diffodd y gwreichion yn y pren.