Cadarnhad bod 350 yn colli gwaith
- Cyhoeddwyd

Mae gwerthiant funud olaf ffatri Welsh Country Foods ar Ynys Môn wedi methu a 350 o weithwyr yno yn colli'u gwaith.
Dywedodd perchnogion y ffatri, cwmni Vion o'r Iseldiroedd, ym mis Tachwedd y llynedd eu bod yn symud y gwaith o nifer o safleoedd yn y DU i'r Almaen.
Roedd hynny'n ddechrau ar gyfnod ymgynghori ar gannoedd o swyddi mewn nifer o safleoedd yng Nghymru, ond ers hynny daeth cadarnhad bod Vion wedi gwerthu safleoedd yn Llangefni ar Ynys Môn, Sandycroft yn Sir y Fflint a Merthyr Tudful fel busnesau hyfyw.
Cwmni bwyd 2 Sisters o Birmingham sydd wedi prynu'r safleoedd ynghyd ag wyth safle arall.
Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd bod cwmni arall â diddordeb prynu safle'r Gaerwen gan gynnig gobaith y gellid achub 70 o swyddi ar y safle yno hefyd.
Ond ddydd Iau fe ddaeth cadarnhad na fu llwyddiant gyda'r cytundeb ac y byddai holl weithwyr y Gaerwen yn colli'u gwaith pan fydd y safle'n cau ddiwedd y mis yma.
Dywedodd swyddog undeb Unite dros Gymru, Paddy McNaught:
"Yn amlwg mae hwn yn ddiwrnod trist i'n haelodau yn Welsh Country Foods, Gaerwen, ac yn ddiwrnod trist i'r gymuned gyfan ar Ynys Môn.
"Rydym yn gwybod bod diddordeb busnes yn y safle yma ac roeddem yn hyderus bod modd dod o hyd i brynwr.
"Rydym yn siomedig iawn yn y modd y mae Vion UK wedi gadael i'r cyfle lithro i ffwrdd ynghyd â channoedd o swyddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2013