Eglwys: Ymchwiliad i briodasau un rhyw
- Cyhoeddwyd

Mae Archesgob Cymru wedi datgan bod Yr Eglwys yng Nghymru wedi gofyn am adroddiad ynghylch partneriaethau un rhyw.
Dywedodd Dr Barry Morgan wrth gorff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru y byddai'r adroddiad yn helpu "canfod y ffordd ymlaen".
Nid yw priodasau un rhyw yn gyfreithlon yn y DU ar hyn o bryd ond mae'r Prif Weinidog, David Cameron wedi eu cefnogi'n gyhoeddus ac mae'r mater wedi cael ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywed Llywodraeth y DU y byddai Yr Eglwys yn Lloegr a'r Eglwys yng Nghymru yn cael eu gwahardd yn gyfreithiol rhag cynnig priodasau un rhyw.
Statws cyfreithiol
Ond mae Dr Morgan wedi dweud nad oedd Yr Eglwys yng Nghymru wedi cael eu hymgynghori ynghylch unrhyw waharddiad a'i bod am benderfynu ar ei liwt ei hun ynglŷn â'r mater.
Yn ei anerchiad i aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ar ddechrau eu cyfarfod deuddydd yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Mercher amlinellodd Dr Morgan sut y bydd Bil y Llywodraeth ar briodasau un rhyw yn effeithio ar yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig, meddai, yn codi dau fater penodol i'r Eglwys eu hystyried.
"Rhaid i ni fel Eglwys drafod a ydym am gadw'r statws cyfreithiol arbennig hwn parthed priodas," meddai.
"Pe câi pwnc priodas ei ddatganoli, ni allaf weld Llywodraeth Gymreig ddatganoledig yn caniatáu i Eglwys a ddatgysylltwyd gadw rhyw weddill fel hyn o'r amser pan oedd hi'n Eglwys Sefydledig."
Rhywioldeb dynol
Yn ôl yr Archesgob, bydd yn rhaid i'r Eglwys ystyried hefyd holl fater perthynas un rhyw.
"Mae hefyd yn codi'r mater o briodasau un rhyw a phartneriaethau un rhyw," meddai.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd yn nealltwriaeth y gymdeithas ehangach o berthynas un rhyw, a dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o rywioldeb dynol yn gyffredinol.
"Yn yr Eglwys yng Nghymru, fel y sylwodd yr esgobion, y mae amrywiaeth barn ar foeseg perthynas un rhyw.
"Mae gwerthfawrogiad newydd o bob perthynas ffyddlon ac ymrwymedig gydol oes.
"Yn ôl Archesgob newydd Caergaint yn ddiweddar 'byddai'n beth hollol hurt awgrymu bod y cariad a fynegir mewn perthynas hoyw yn llai na'r cariad sy'n bodoli rhwng cyplau syth'.
"Felly, mae'r esgobion wedi gofyn i'r Comisiwn Athrawiaeth archwilio holl fater perthynas un rhyw, a phan fydd ei adroddiad yn barod bydd yn rhaid inni gael trafodaeth gyffredinol, mewn grwpiau i ddechrau, efallai, yn y Corff Llywodraethol hwn, i fapio ein ffordd ymlaen fel Eglwys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012