Morglawdd: Codi cwestiynau am ddynion busnes
- Cyhoeddwyd

Mae aelod o bwyllgor seneddol sy'n ymchwilio i gynlluniau i adeiladu morglawdd ar draws Môr Hafren wedi dweud y dylai'r cwmni sydd tu ôl i'r fenter gael eu galw'n ôl i roi tystiolaeth wedi ymchwiliad gan BBC Cymru.
Dywedodd John Robertson AS nad oedd cwmni Hafren Power wedi bod yn gwbl agored gyda Phwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd a bod "mwy o gwestiynau nag atebion" wedi codi ynghylch y cynllun.
Mae ymchwiliad Adran Newyddion BBC Cymru wedi codi cwestiynau difrifol am gefndir dau ffigwr blaenllaw tu ôl i Hafren Power, sydd am adeiladu morglawdd ar draws Môr Hafren.
Eisoes mae Richard Bazley, cyfranddalwr mwyaf Hafren Power wedi bod yn fethdalwr deirgwaith yn ystod ei yrfa hir fel dyn busnes.
Mae Mr Bazley, sy', yn ôl y cwmni, yn "sylfaenydd a'r dyn sy'n gyfrifol am y weledigaeth" wedi galw ei hun yn "entrepreneur cyfresol" ar wefan y cwmni.
Cyhoeddwyd ei fod yn fethdalwr yn 1977, 1994 a 2005.
Cefndir
Doedd Mr Bazley ddim am wneud cyfweliad ond fe ddywedodd Prif Weithredwr Hafen Power, Tony Pryor, nad oedd cefndir busnes Mr Bazley yn tanseilio hygrededd y cynllun.
Mae un o sylfaenwyr eraill y cwmni, Idwal Stedman, sydd ar bwyllgor rhanbarthol Hafren Power, wedi bod yn fethdalwr ddwywaith, yn 1994 pan oedd yn bensaer ac yn 2006 pan oedd yn werthwr hen greiriau.
Er bod Hafren Power yn dweud bod Mr Stedman wedi rhedeg "cwmni pensaerniol yn fawr ei barch," mae ar hyn o bryd wedi ei wahardd rhag galw ei hun yn bensaer.
Cafodd ei enw ei dynnu oddi ar restr swyddogol y penseiri y llynedd gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri yn sgil cwynion am filiau nad oedd wedi eu talu.
Cafodd ei wahardd rhag galw ei hun yn bensaer gan y bwrdd oherwydd "ymddygiad oedd yn anghydnaws yn y bôn â bod yn bensaer".
£20,000
Mae Mr Stedman hefyd yn destun saith Dyfarniad Llys Sirol am fod pobl yn hawlio dros £20,000 rhwng 2009 a 2011.
Mewn datganiad i'r BBC fe ddywedodd: 'Richard Bazley a fi oedd yn gyfrifol am syniad creu morglawdd oedd wedi ei ariannu yn breifat saith mlynedd yn ôl ac rydym wedi gweithio'n ddiflino ers hynny gan ein bod yn sylweddoli gwerth anferth adfywio economaidd ac ynni glân.
"Hebddon ni ni fyddai cynllun.
"Heddiw mae'r prosiect yn tyfu dan arweiniad tîm o dalent busnes allanol.
"Rydym yn dal i chwarae rhan ac yn gyfranddalwyr.
"Mae methdaliadau a chamgymeriadau y gorffennol - heb gysylltiad â'r cynllun - yn boenus i bawb.
'Dilys'
"Ond ni ddylen nhw leihau pa mor ddilys yw'r morglawdd a'i bwysigrwydd i Gymru a Gorllewin Lloegr."
Mae Hafren Power yn gobeithio adeiladu morglawdd 11 milltir o hyd ar gost o £25bn o Drwyn Larnog ger Penarth i Brean ger Weston-Super-Mare yn Lloegr.
Mae cefnogwyr y cynllun yn dweud y byddai'n cynhyrchu hyd at bump y cant o anghenion ynni Prydain, gan ddefnyddio 1,000 o dyrbeini ac egni'r llanw.
Ond chaiff y prosiect ddim mynd yn ei flaen heb gefnogaeth Llywodraeth Prydain.
Mae gweinidogion wedi dweud eu bod am weld cynlluniau manylach cyn clustnodi amser Seneddol ar gyfer mesur fyddai'n golygu y gall y cynllun fynd yn ei flaen.
Fe ymddiswyddodd Peter Hain, yr Aelod Seneddol Llafur dros Gastell Nedd, o gabinet yr Wrthblaid er mwyn ymgyrchu dros y morglawdd.
Dim sylw
Nid oedd am wneud sylw am wybodaeth yr ymchwiliad pan gysylltodd y BBC ag e.
Yn ôl cefnogwyr y cynllun, fe fyddai'r morglawdd yn cael ei ariannu gan arian preifat ac ni fyddai angen arian cyhoeddus.
Cafodd cynllun tebyg ei wrthod gan Lywodraeth Prydain yn 2010 am resymau cost ond mae Hafren Power wedi dweud y byddai'r morglawdd ar ei newydd wedd yn delio â'r broblem ac yn fwy ecogyfeillgar na'r cynllun blaenorol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2013