Grid Cenedlaethol: Chwilio am dirfeddianwyr ym Mhowys
- Published
Mae 11 darn o dir sydd heb ei gofrestru yn rhwystro cynlluniau i godi peilonau ar draws rhan o Sir Drefaldwyn.
Dywed y Grid Cenedlaethol eu bod yn chwilio am y tirfeddianwyr fel bod tirfesuriadau'n gallu cael eu cynnal.
Bydd y peilonau yn cludo trydan o nifer o ffermydd gwynt arfaethedig i bwerdy yng Nghefn Coch.
Mae nifer o wrthdystiadau wedi cael eu cynnal ym Mhowys ers i gynlluniau i godi'r isbwerdy ar safle 19 erw (7.6hectar) gael eu datgelu.
Mae'r Grid Cenedlaethol yn galw ar drigolion lleol i helpu i ganfod pwy sy'n berchen yr 11 darn o dir.
Bydd y tirfesuriadau yn helpu canfod sut y bydd y rhwydwaith o beilonau'n cael eu codi a lle bydd y Grid Cenedlaethol yn gallu cludo'r trydan yn danddaearol.
'Gwybodaeth'
Dywedodd prif reolwr y prosiect, Jeremy Lee: "Rydym yn ddiolchgar i'r nifer fawr o dirfeddianwyr sydd wedi rhoi gwybodaeth i ni a'n galluogi i fynd ar eu tir ond mae angen inni adnabod perchnogion y darnau o dir sydd heb gael eu cofrestru."
Mae'r Grid Cenedlaethol am gysylltu'r trydan sy'n cael ei greu yng nghanolbarth Cymru gyda'r rhwydwaith trawsyriant cenedlaethol yn Sir Amwythig.
Teithiodd tua 1,500 o wrthwynebwyr i'r Senedd ym Mae Caerdydd ym Mai 2011 i brotestio yn erbyn y ffermydd gwynt, isbwerdy a pheilonau arfaethedig.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Rhagfyr 2012
- Published
- 14 Rhagfyr 2012
- Published
- 13 Rhagfyr 2012
- Published
- 20 Tachwedd 2012
- Published
- 17 Tachwedd 2012
- Published
- 29 Hydref 2012
- Published
- 25 Medi 2012