Ailgodi fflatiau ym Mae Caerdydd wedi oedi o bum mlynedd
- Published
Mae'r gwaith o godi bloc o fflatiau ym Mae Caerdydd wedi ailddechrau.
Daeth y gwaith i ben yn 2008 oherwydd problemau ariannol.
Bydd adeilad Y Gorwel yn cynnwys 76 fflat un neu ddwy ystafell wely ar 18 llawr pan fydd y gwaith yn dod i ben ym Mai neu Orffennaf y flwyddyn nesaf.
Daeth y gwaith adeiladu i ben ar ôl i chwe llawr gael eu codi bum mlynedd yn ôl oherwydd gostyngiad mewn gwerthiant, yn ôl cwmni Bellway Homes.
Mae rhai wedi dweud bod ail-ddechrau'r gwaith ar adeilad Y Gorwel yn arwydd fod y farchnad dai yng Nghaerdydd yn gwella.
Ym mis Rhagfyr cymeradwyodd Cyngor Caerdydd gynlluniau i godi 798 o gartrefi ym Mae Caerdydd.
Bydd datblygiad Cardiff Point yn cael ei godi o gwmpas Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.
Bydd y cynllun yn cynnwys adeilad 23 llawr ac adeilad 27 llawr yn ogystal â 10 o dai gyda phum ystafell wely ger Clwb Hwylio Bae Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Ebrill 2013