Morgannwg yn brwydro'n ôl
- Cyhoeddwyd

Cipiodd Morgannwg ddwy wiced rhwng y cawodydd ar ail ddiwrnod eu gêm yn Stadiwm Swalec yn erbyn Sir Northampton yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.
Chafodd mo'r un bêl ei bowlio yn y bore ond pan ddaeth y chwaraewyr i'r cae estynnodd Stephen Peters a Robert Newtown eu partneriaeth i 79 rhediad cyn i Jim Allenby faglu Newton coes o flaen wiced am 39 rhediad.
Tarodd Allenby am yr ail dro bum rhediad pan ddaliodd Stewart Walters gapten yr ymwelwyr, Peters, oddi ar ei fowlio am 67 rhediad oedd yn cynnwys 12 pedwar.
Yn fuan wedyn fe ddaeth y glaw unwaith eto i roi taw ar ymdrechion Morgannwg am y dydd ar ôl dim ond 17.1 pelawd.
Morgannwg v Sir Northampton - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran
Sgôr am 4pm ar yr ail ddiwrnod
Morgannwg (batiad cyntaf): 134 i gyd allan (50 pelawd)
Northampton (batiad cyntaf) 145 am 5 (40.4 pelawd)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013