Carchar i ddyn o Sir y Fflint ar ôl troseddu 342 tro
- Cyhoeddwyd

Mae un o ladron siop mwyaf Prydain wedi cael ei garcharu am 18 mis ar ôl troseddu am y 342fed tro.
Dywedodd y Barnwr, Rhys Rowlands wrth David Archer, fod gan y lleidr 58 oed y cofnod gwaethaf o ddwyn o siopau ei fod wedi ei weld yn y blynyddoedd diweddar.
Dydd Iau clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Archer wedi cyfaddef dau achos newydd o ddwyn o siopau a dau achos o dorri gorchymyn gwrthgymdeithasol i'w atal rhag mynd i siopau elusen.
Roedd Archer wedi ysgrifennu llythyr at y barnwr yn dweud ei fod wedi rhoi arian i elusennau yn y gorffennol am ei fod yn gwerthfawrogi eu gwaith.
28 mlynedd dan glo
Ychwanegodd y llythyr fod Archer wedi dwyn am ei fod am gadw'n dwym yn ystod cyfnod o dywydd oer.
Ond dywedodd y barnwr ni fyddai dwyn blwch elusen neu gamera yn cadw Archer yn dwym.
Clywodd y llys fod Archer wedi troseddu 338 tro o'r blaen gan gynnwys 261 achos o ddwyn o siopau ac 11 achos o dorri'r gorchymyn sy'n ei wahardd rhag mynd i unrhyw siop elusen na bod yn eiddo i flwch elusen.
Clywodd y llys fod Archer, sydd wedi bod yn byw ym Mostyn yn Sir y Fflint wedi dechrau dwyn pan oedd yn 10 mlwydd oed.
Dywedodd y Barnwr: "Hwn yw un o gofnodion troseddol digalonnus rwyf wedi gweld ers tro."
Clywodd y llys fod Archer, sy'n honni ei fod wedi treulio 28 mlynedd dan glo a phob Nadolig ond un dan glo yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, mewn cylch o gael ei garcharu, cael ei ryddhau a chael ei garcharu eto oherwydd problemau alcohol a chyffuriau.