Annog rhieni i ddefnyddio cewynnau sy'n cael eu golchi yn hytrach na rhai i'w taflu

  • Cyhoeddwyd
babi mewn cewyn talu i ffwrdd
Disgrifiad o’r llun,
Mae babi yn defnyddio tua pedwar cewyn y diwrnod

Mae rhieni'n cael eu hannog i roi'r gorau i ddefnyddio cewynnau sy'n cael eu taflu a'u hannog i ddefnyddio rhai sy'n cael eu golchi yn eu lle.

Mae naw o gynghorau Cymru'n cynnig arian i rai sy'n fodlon gwneud hyn.

Caiff y swm sy'n cael ei gynnig ei amrywio, gyda Chyngor Dinas Abertawe yn cynnig y swm mwyaf - £100, a £30 yn siroedd Conwy a Gwynedd.

Dywedodd Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, ei fod yn croesawu'r cam tuag at ddewisiadau mwy cynaliadwy.

Ond mae gan y mudiad bryderon ynglŷn â sut mae'r system yn cael ei weithredu.

Mae 'na amcangyfrif bod tua 200 miliwn o gewynnau yn cael eu taflu yn flynyddol yng Nghymru.

Miloedd o bunnoedd

Disgrifiad,

Barn mamau am gewynnau sy'n cael eu hailddefnyddio

Mae hyn tua 3% o'r holl wastraff sy'n cael ei anfon i diroedd llenwi Cymru.

Cyfanswm y gost ar gyfer set lawn o gewynnau sy'n cael eu hailddefnyddio yw tua £250 o'i gymharu â £1,200 ar gyfer cewynnau taflu i ffwrdd am ddwy flynedd a hanner.

Yn ôl Mr Clubb, mae'n poeni y gallai'r gost gychwynnol atal rhai rhieni rhag manteisio ar y cynllun.

"Mae'n beth gwych bod cynnig ariannol ar gael i helpu newid o system sy'n wael i'r amgylchedd i ddefnyddio rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio dro ar ol tro," eglurodd.

"Rhaid buddsoddi arian yn y lle cyntaf er mwyn gwneud yr arbedion.

"Dwi'n credu y bydd y system yn ei gwneud yn anoddach i deuluoedd difreintiedig ac efallai yn anoddach i deulu tlotach fforddio'r buddsoddiad cyntaf."

Ond yn Abertawe mae'n gallu bod hyd at fis cyn i rieni gael eu had-dalu ar ôl cyflwyno derbyniadau.

Ar eu gwefan mae Cyngor Abertawe yn awgrymu y gallai rhieni gael benthyciadau gydag undebau credyd i dalu am y cewynnau tra bod Cyngor Caerdydd wedi trefnu i undebau gynnig benthyciadau i rieni sydd am brynu'r cewynnau er nad oes ganddyn nhw gynllun o'r fath.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol