Casnewydd yn codi i'r trydydd safle wedi buddugoliaeth yn erbyn Macclesfield

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun, Llwyddodd Andy Sandell gyda chic o'r smotyn i ddod â Chasnewydd yn gyfartal

Casnewydd 4-1 Macclesfield

Mae Casnewydd wedi codi i'r trydydd safle, uwchben Wrecsam, yn nhabl Uwchgynghrair y Blue Square ar ôl buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Macclesfield nos Iau.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi tri munud gydag ergyd lwyddiannus Jay Burgess.

Ond fe ddaeth ymdrech Christian Jolley a'r tîm cartref yn gyfartal wedi 24 munud cyn i Andy Sandell lwyddo gyda chic o'r smotyn.

Yn y funud ola' o'r hanner cyntaf fe wnaeth Robbie Willmott rwydo'n benderfynol.

Ail gôl Willmott oedd unig gôl yr ail hanner wnaeth selio'r fuddugoliaeth haeddiannol i'r Alltudion.

Mae gan Gasnewydd obaith o hyd i ennill y bencampwriaeth, er ei fod yn un tenau iawn.

Gyda thair gêm yn weddill maen nhw wyth pwynt tu ôl i Mansfield sydd ar y brig.

Maen nhw chwe phwynt tu ôl i Kidderminster sy'n ail ac sydd wedi chwarae un gêm yn fwy na nhw.

Dyma oedd y pedwerydd tro yn olynnol i Macclesfield golli ac maen nhw wedi syrthio i'r nawfed safle.

Cytundeb

Fe ddaeth y fuddugoliaeth oriau wedi'r cyhoeddiad bod rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh, wedi arwyddo cytundeb sy'n ymestyn ei gyfnod gyda'r clwb am ddwy flynedd arall.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun, Cyn y gêm daeth y newydd fod y rheolwr Justin Edinburgh wedi arwyddo am ddwy flynedd arall gyda Chasnewydd

Mae'n golygu y bydd y rheolwr 43 oed gyda'r clwb tan ddiwedd tymor 2015-16.

Ac mae Jimmy Dack wedi cytuno ar ddwy flynedd arall gan barhau i fod yn gynorthwy-ydd i Edinburgh.

"Roedd yn benderfyniad hawdd i ni ei wneud," meddai Edinburgh.

"mae'r bobl yn angerddol eu pêl-droed yma ac mae gen i a Jimmy yr un dyhead, i weld Casnewydd yn dychwelyd i'r Gynghrair.

"Mae'r bwrdd a'r cadeirydd wedi cefnogi'r amcanion hynny.

"Rydym yn falch ein bod yn gallu parhau gyda'r cynllun ar gyfer y dyfodol."

Bydd Casnewydd yn croesawu Alferton i Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol