Pentre'n dathlu
- Cyhoeddwyd

Mae canmlwyddiant ers sefydlu pentref gardd Rhiwbeina, sydd bellach yng ngogledd Caerdydd ond oedd yn rhan o Forgannwg pan gafodd ei sefydlu.
Mewn seremoni ddydd Gwener fe ddadorchuddiwyd plac i nodi'r achlysur hanesyddol gan faer Caerdydd Derrick Morgan.
Daeth y pentref i fodolaeth oherwydd breuddwyd un dyn oedd am weld cymuned yn cael ei chreu ar gyfer gweithwyr cyffredin yn sgil y chwyldro diwydiannol.
Roedd yr Athro Stanley Jevans a'i fryd ar greu hafan a fyddai'n cynnig bywyd braf i weithwyr, loches wyrdd rhag amodau gweithio caled y cyfnod.
Alun Thomas yn holi trigolion Rhiwbeina
Un sydd wedi byw yn y pentref ers amser maith yw Gwilym Roberts: "Bwriad Stanley Jevans oedd sefydlu pentref ar gyfer y gweithwyr i roi rhyw awyrgylch hyfryd iddyn nhw.
"Roedd am iddyn nhw gael safon uwch i'w bywydau nhw, drwy alluogi iddynt fyw mewn tai braf ac awyrgylch hyfryd yn y wlad."
Yn ôl Mr Roberts, roedd yr Athro Jevans wedi benthyg y syniad o Lundain: "Welwyn Garden City oedd wedi rhoi'r syniad yn ei ben o.
"Agorodd y pentref yn 1913 felly rydym ni lenni'n dathlu canmlwyddiant sefydlu'r pentref."
"Ddim wedi newid"
Un arall sydd wedi treulio amser maith yn y pentref yw Linda Hall.
Ei barn hi yw mai amodau cynllunio sy'n gyfrifol am y ffaith bod Rhiwbeina wedi cadw ei gymeriad, yn wahanol i bentrefi tebyg eraill o amgylch Cymru.
"Rwyf wedi bod yn byw yn y pentref ers '69 a dwi'n hoffi byw yma cymaint achos dyw e ddim yn mynd i newid," meddai Mrs Hall.
"Dyw rhai pobl ddim yn hoffi'r ffaith eu bod nhw ddim yn medru newid eu tai heb ganiatâd, ond mae hynny'n iawn gen i!"
Mae Gwilym Roberts yn cytuno: "Mae'r sefyllfa wedi newid yn naturiol gyda llawer o'r hen denantiaid yn marw, tai yn cael eu gwerthu'n breifat a phobl yn symud mewn ac allan.
"Ond mae yna gymdeithas o hyd o'r tenantiaid - mae yna ryw elfen bentrefol o hyd."