Bad achub newydd gwerth £2.7m i Dŷ Ddewi
- Cyhoeddwyd

Bydd tîm Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn Nhŷ Ddewi yn derbyn bad achub newydd ddydd Llun.
Bydd y bad, y Norah Wortley, yn cymryd lle'r Garside sydd wedi gwasanaethu ardal Tŷ Ddewi ers 1988. Fe gafodd y Garside ei galw allan 329 o weithiau, gan achub 339 o bobl ac achub bywydau 79 o bobl.
Mae'r bad achub newydd wedi costio £2.7 miliwn ac mae wedi ei ariannu gan gymynrodd gan Diane Mary Symon o Ddyfnaint a fu farw yn 2010.
Roedd criw o wirfoddolwyr yr RNLI wedi teithio i Poole yn Dorset i dderbyn hyfforddiant cyn i'r Norah Wortley deithio ar hyd arfordir Prydain dros y penwythnos.
Caniatâd cynllunio
Disgwylir i'r bad achub gyrraedd Tŷ Ddewi tua 4.30pm ddydd Llun.
Ers mis Awst diwethaf mae'r RNLI wedi buddsoddi £10.8 miliwn mewn pedwar bad achub dosbarth Tamar ym Mhorth Dinllaen, Moelfre, Tŷ Ddewi a'r Mwmbwls.
Bydd bad achub newydd Tŷ Ddewi yn cael ei angori dros dro, tra bydd cwt cychod newydd yn cael ei godi.
Y disgwyl yw i'r gwaith adeiladu ddechrau yn yr Hydref os ceir caniatâd cynllunio ar gyfer y safle ym Mhorth Stinian.
Dywedodd cocs RNLI Tŷ Ddewi, Dai John: "Bydd y bad achub newydd yn achos balchder i mi ac mae gen i bob ffydd y bydd yn ein helpu i achub mwy o fywydau oddi ar arfordir Sir Benfro."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Awst 2012
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012