Morgannwg yn gobeithio am law

  • Cyhoeddwyd
Clwb Criced MorgannwgFfynhonnell y llun, Glamorgan CCC

Bydd yn rhaid i Forgannwg fatio'n wych ar ddiwrnod olaf eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Northampton yn Stadiwm Swalec ddydd Sadwrn os ydyn nhw am osgoi colli gêm gyntaf y tymor.

Roedd Morgannwg wedi sgorio 96 am bedair wiced yn eu hail fatiad erbyn diwedd y chwarae nos Wener sy'n golygu fod angen i'r tîm cartref sgorio 62 i osgoi colli o fatiad.

Un wiced a gipiodd Morgannwg ar fore'r trydydd diwrnod.

Michael Reed gipiodd wiced Andrew Hall, ond erbyn hyn roedd yr ymwelwyr wedi dechrau rheoli, gan gynyddu eu mantais yn y batiad cyntaf.

Ychwanegodd Hall a James Middlebrook 57 at y sgôr dros nos cyn i Hall gael ei ddal gan Ben Wright oddi ar fowlio Reed.

Ychwanegodd Middlebrook a'r wicedwr David Murphy 64 rhediad am y seithfed wiced cyn i'r bowliwr cyflym o Awstralia ben Hogan gipio ei ail wiced o'r batiad cyn i Murphy gael ei ddal gan Jim Allenby ar ôl sgorio 27 rhediad.

Sgorio'n araf

Middlebrook oedd prif sgoriwr batiad Sir Northampton ac ef oedd y dyn olaf allan am 70 rhediad wrth i'r ymwelwyr gipio mantais o 158 rhediad ar ôl y batiad cyntaf.

Bowlwyr mwyaf llwyddiannus Morgannwg oedd Michael Reed (3-53) a Graham Wagg (3-78).

Dechreuodd Morgannwg eu hail fatiad yn ofalus ac er iddynt sgorio'n araf llwyddodd Ben Wright (20) a Will Bragg (39) sgorio 62 cyn i'r wiced gyntaf gwympo.

Ond ar ôl i David Willey ddisodli Bragg fe ddaliodd Trent Copeland Wright oddi ar bowlio cyn bowliwr prawf De Affrig Andrew Hall heb ychwanegiad i'r sgôr.

Cafodd Stewart Walters ei ddal gan Murphy oddi ar bowlio Hall am ddim ond wyth rhediad a methodd cyn fatiwr prawf Awstralia Marcus North am yr ail dro pan gafodd ei ddal gan Murphy oddi ar fowlio Steven Crook am un rhediad.

Erbyn hyn roedd Morgannwg wedi colli pedair wiced am ddim ond naw rhediad ond ychwanegodd Murray Goodwin a Jim Allenby 25 rhediad heb gael eu gwahanu erbyn diwedd y chwarae.

Mae'r rhagolygon yn addo glaw trwm yng Nghaerdydd brynhawn dydd Sadwrn ac os bydd batwyr Morgannwg yn gallu para tan amser cinio y mae'n bosib iddynt gael gêm gyfartal.

Morgannwg v Sir Northampton - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran

Sgôr ar ddiwedd y trydydd diwrnod :-

Morgannwg (batiad cyntaf): 134 (50 pelawd)

Northampton (batiad cyntaf) 292 (90.1 pelawd)

Morgannwg (ail fatiad) 96 am 4 wiced (42 pelawd)

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol